Carcharu dyn wedi i'w blentyn fethu 98% o gyfnod ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir Benfro wedi cael ei garcharu am fethu â sicrhau fod ei blentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.
Cafodd y dyn, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ei ddedfrydu i ddeufis yn y carchar yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Gwener.
Clywodd y llys fod gan y plentyn bresenoldeb o 1.46% yn y cyfnod rhwng 8 Ionawr a 4 Gorffennaf 2018.
Dywedodd aelod o gabinet Sir Benfro, David Lloyd, fod yr achos yn un "eithafol a hynod o drist", ond hefyd yn atgoffa rhieni o ganlyniadau difrifol peidio â sicrhau fod plant yn derbyn addysg.
Roedd staff o'r ysgol ac aelodau o dîm cefnogi disgyblion y cyngor wedi ceisio cysylltu â'r rhiant 29 o weithiau drwy gyfrwng ymweliadau â'r cartref neu alwadau ffôn.
Plediodd y dyn yn euog i'r cyhuddiad, a chafodd ei ddedfrydu i ddeufis yn y carchar ynghyd â chosb ariannol o £441.81.
Ychwanegodd Mr Jones nad yw'r cyngor eisiau cosbi pobl oni bai ei fod "gwbl angenrheidiol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2018