Gwaredu mwd Hinkley i ddechrau dydd Iau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y gwaith dadleuol o waredu mwd o orsaf niwclear Hinkley Point i safle oddi ar Bae Caerdydd yn dechrau dydd Iau.
Daeth y cadarnhad oddi wrth y corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Bwriad cwmni EDF yw symud 300,000 tunnell o fwd o safle hen atomfeydd Hinkley Point A a B i safle ychydig dros filltir i'r môr o Fae Caerdydd.
Ond mae ygyrchywr yn poeni y gallai'r mwd o Wlad yr Haf gynnwys gwastraff niwclear.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth rai cannoedd brotestio y tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd yn gwrthwynebu'r bwriad.
Fis Rhagfyr, wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol fe wrthododd EDF unrhyw awgrym fod y mewn yn wenwynig ac mai nod yr honiadau oedd codi braw.
Dywed EDF fod yn rhaid symud y mwd fel rhan o wait cychwynnol i godi atomfa newydd Hinkley Point C - cynllun gwerth £19.6bn.
Fe wnaeth asiantaeth Llywodraeth San Steffan, CEFAS, gynnal profion ar y mwd - ac mae Cyfoeth Naturiol wedi asesu'r canlyniadau.
Daeth CNC i'r casgliad fod y lefelau ymbelyreodd mor isel ac felly "ddim yn ymbelydrol" yn gyfreithiol.
Cafodd trwydded forwrol ei roi i'r cwmni gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwaredu'r mwd yn 2013.
Ers hynny mae dros 7,000 wedi arwyddo deiseb yn galw am ohirio'r cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018
- Cyhoeddwyd14 Awst 2018
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017