Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dyn yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Clwb Rygbi Penlan

Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i farwolaeth dyn 60 oed yn ardal Penlan, Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad am 13:30 brynhawn Llun ger clwb rygbi Penlan ar Heol Gwyrosydd.

Fe gafodd dyn ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae'n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae'r ardal o gwmpas y digwyddiad wedi cael ei chau gan yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar dystion oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1800335893.