Cyhoeddi enw dyn wedi gwrthdrawiad angheuol

  • Cyhoeddwyd
B4350Ffynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger y Gelli Gandryll ddydd Llun.

Roedd Simon Dodd yn 53 oed ac yn dod o Gaerffili.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd tua 15:40 ar y B4350 rhwng Y Gelli Gandryll ac Aberllynfi.

Bu farw Mr Dodd yn y fan a'r lle.

Cafodd un teithiwr ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau "difrifol", ond mae bellach mewn cyflwr "sefydlog".

Cafodd y ffordd ei chau am sawl awr wedi'r gwrthdrawiad, wrth i'r heddlu ymchwilio.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy alw 101.