Express Motors: Perchennog a'i feibion yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Bysus

Mae perchennog cwmni bysus Express Motors o Wynedd a'i feibion yn y llys wedi eu cyhuddo o hawlio degau o filoedd o bunnoedd am deithiau ffug.

Gwadu'r cyhuddiad o dwyll mae Eric Wyn Jones, 77 o Bontnewydd, a'i feibion - Ian Wyn Jones, 53 o Benygroes, Keith Jones, 51 o Llanddaniel a Kevin Wyn Jones, 54 o Bontnewydd.

Mae'r pedwar hefyd wedi gwadu rhoi dros £500,000 yn eu cyfrifon banc heb dalu unrhyw dreth.

Dywedodd yr erlynydd Matthew Dunsford fod 32 pas bws i bobl dros 60 oed - y rhan fwyaf o'r rhain wedi eu colli neu wedi eu dwyn - wedi cael eu defnyddio ar fysiau dros 80,000 o weithiau yn ystod cyfnod o ddwy flynedd.

Cafodd un o'r tocynnau ei ddefnyddio 23,000 o weithiau.

Ychwanegodd Mr Dunsford fod y cwmni wedyn yn hawlio arian am y deithiau ffug gan Gyngor Gwynedd, a oedd wedyn yn hawlio'r arian yn ôl gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun consesiynau teithio.

Mae'r achos yn parhau.