Achub peilot wedi i awyren ddisgyn i'r môr ger Tyddewi
- Cyhoeddwyd

Fe ddisgynnodd yr awyren i'r môr oddi ar draeth Porth Mawr yn Sir Benfro
Mae peilot wedi ei achub o awyren wedi iddi ddisgyn i'r môr oddi ar arfordir Sir Benfro ddydd Mawrth.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i draeth Porth Mawr ger Tyddewi wedi i awyren fechan ddisgyn i'r dŵr.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad toc wedi 13:50, a'u bod wedi anfon un ambiwlans ac un ambiwlans awyr.
Cafodd y peilot, sy'n dioddef o sioc, ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn yr ambiwlans.
Yn ôl tystion a welodd y digwyddiad, mi allai pethau fod wedi bod yn "drasiedi difrifol".
Dywedodd yr heddlu mai Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau sy'n delio â'r digwyddiad, a bydd Adran Archwilio Damweiniau Awyr (AAIB) yn ymchwilio i'r digwyddiad hefyd.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw i'r digwyddiad tua 13:20 ddydd Mawrth
Mae'r awyren o fath Piper PA-280A Cherokee, ac yn eiddo i ddyn o Sir Bedford.
Mae'n debyg iddi ddechrau ei thaith o Sir Bedford fore dydd Mawrth a glanio ym maes awyr Hwlffordd am 11:50.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Benfro fod yr awyren wedi gadael maes awyr Hwlffordd tua 20 munud cyn iddi ddisgyn.

Dywedodd Ian Price, perchennog llety gwely a brecwast yn Nhyddewi: "Fe gyrhaeddes i'r traeth ar ôl i'r ddamwain ddigwydd ac roedd llawer o wasanaethau brys yno - gwylwyr y glannau, heddlu ac ambiwlans.
"Dwi ddim yn gwybod ai un peilot oedd yn yr awyren ond fe welais rywun yn cael ei gludo ar fad achub.
"Mae'n ffodus na ddigwyddodd hyn wythnos yn ôl pan oedd y traeth lawer yn fwy prysur yn ystod gwyliau'r ysgol.
"Mae hi wedi bod yn eithaf gwyntog heddiw, felly doedd dim llawer o bobl o gwmpas."

Cafodd jac codi baw ei ddefnyddio i dynnu'r awyren o'r môr
Cafodd jac codi baw ei alw i gynorthwyo'r gwasanaethau brys i dynnu'r awyren o'r dŵr.
Yn ôl Sophie Williams, sy'n gweithio mewn caffi ar y traeth: "Mae e'n lwcus iawn i fod yn fyw. Petai wedi hedfan tua chanllath yn bellach mi fyddai wedi mynd yn syth i mewn i'r creigiau.
"Y bobl gyntaf i'w gyrraedd oedd dau gerddwr, a dywedodd wrthyn nhw bod yr injan wedi pallu.
"Mae'r gwasanaethau brys i gyd yma'n ceisio gweithio mas sut i dynnu awyren o'r môr heb i'r llanw ruthro mewn. Mi allai hyn fod wedi bod yn drasiedi difrifol."
Er bod yr AAIB yn ymchwilio i'r digwyddiad, nid ydynt yn bwriadu cludo'r cerbyd i Farnborough i'w harchwilio.
Yn hytrach, bydd yr archwiliad yn cael ei wneud o bell a'r peilot, ei yswiriwr neu berchenog y tir sy'n gyfrifol am symud yr awyren.