'Angen newid rheolau' ar adrodd problemau golwg gyrwyr

  • Cyhoeddwyd
David EvansFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu David Evans ei fod yn "ŵr perffaith ac yn dad gwych"

Mae angen adolygu'r gyfraith i feddygon ac optegwyr allu roi gwybod i'r awdurdodau am gleifion ddylai ddim gyrru oherwydd nad yw eu golwg yn ddigon da, yn ôl arbenigwr.

Daw hynny ar ôl i ddyn o Gasnewydd gael ei garcharu am achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus y llynedd, ar ôl anwybyddu cyngor ei optegydd i beidio â gyrru.

Ar hyn o bryd mae'r cyfrifoldeb ar gleifion i roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau (DVLA), gan fod rheolau preifatrwydd yn atal gweithwyr iechyd rhag gwneud.

Yn ôl prif weithredwr Optometry Wales, Sali Davis, mae'r rheolau'n rhoi optegwyr mewn sefyllfa "anghyfforddus iawn".

Dywedodd y corff sy'n arolygu optegwyr eu bod yn ystyried cyhoeddi canllawiau newydd.

Cafodd Nigel Sweeting ei garcharu am saith mlynedd ym mis Mai'r llynedd ar ôl iddo ladd David Evans, 49, ar yr M4 yng Nghasnewydd ar ddiwrnod Nadolig.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Sweeting, oedd â golwg ymylol gwael, yn "gwbl ymwybodol" o broblemau gyda'i olwg ond wedi anwybyddu cyngor i beidio gyrru.

'Angen adolygu'r gyfraith'

Ar hyn o bryd, dyw meddygon ac optegwyr ond yn teimlo y gallan nhw gynghori cleifion i ddweud wrth y DVLA am eu cyflwr, ond ddim adrodd i'r awdurdod eu hunain oherwydd rheolau preifatrwydd.

Dywedodd Ms Davis bod hynny wedi rhoi'r optegydd yn achos Sweeting mewn sefyllfa "anghyfforddus iawn" ar ôl gwneud popeth sy'n ofynnol, ond bod "diffyg gweithredu'r claf wedi achosi marwolaeth".

Mae teulu Mr Evans wedi ymgyrchu am newid i'r gyfraith i orfodi gweithwyr meddygol i adrodd am gleifion ddylai ddim gyrru i'r DVLA.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nigel Sweeting ei garcharu ar ôl gyrru pan oedd wedi cael cyngor i beidio â gwneud

Daw galwad Ms Davis ar ôl i heddluoedd yn Lloegr gyhoeddi cynlluniau i brofi golwg pob gyrrwr sy'n cael eu stopio gan swyddogion.

Mae heddluoedd Cymru'n dweud eu bod yn profi gyrwyr wrth ochr y ffordd yn aml, a bod ganddyn nhw'r pŵer i wahardd pobl rhag gyrru yn y fan a'r lle.

Ond dim ond Heddlu Gogledd Cymru wnaeth gynnal ymgyrch benodol i brofi golwg gyrwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd dim ond cynghori cleifion i ddweud wrth y DVLA am broblemau y mae optegwyr yn ei wneud

Er bod Ms Davis yn rhannol gefnogi profion o'r fath, mae hi'n dweud na fyddan nhw'n darganfod rhai cyflyrau sydd yn beryglus.

"Bydd profion cyson yn darganfod y problemau yma ond ni fyddai prawf arwynebol ar ochr y ffordd yn," meddai.

"Ar hyn o bryd does gan optegydd ond y cyfrifoldeb i adrodd wrth feddyg os nad yw golwg claf yn ddigon da i yrru'n ddiogel.

"Mae'r gyfraith a chyfrifoldebau gweithwyr iechyd yn y maes yma angen eu hadolygu gan mai'r cleifion eu hunain sy'n gorfod dweud wrth y DVLA."

'Ystyried canllawiau pellach'

Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol yn cynghori ei haelodau i adrodd "yn brydlon" am bryderon am ddiogelwch.

Yn ôl canllawiau'r cyngor, dylai aelodau godi pryderon gyda chorff proffesiynol neu arolygwyr, ond nid y DVLA.

Dywedodd y cyngor bod rhai aelodau a'r cyhoedd wedi "gofyn am eglurder am sut i gyflawni'r safonau pan mae'n bosib nad yw'n ddiogel i glaf yrru oherwydd eu golwg".

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n ystyried os oes angen canllawiau pellach ac ym mha ffurf all hynny fod."