Helpu'r heddlu i fathu termau: Eich cynigion chi

  • Cyhoeddwyd
Dau heddwas yn edrych dros draeth

Pan mae'n dod at sgrifennu a siarad Cymraeg mae 'na wastad heddlu iaith o gwmpas yn barod i gywiro a beirniadu ond o bryd i'w gilydd mae'r heddlu go iawn angen help gyda iaith.

Mae termau Cymraeg fel 'cadw yn y ddalfa' (detain in custody), 'ar fechnïaeth (on bail), 'cyrch' (raid) a 'theledu cylch cyfyng' (CCTV) wedi ennill eu plwy ym myd cyfraith a threfn erbyn hyn.

Ond gyda natur eu gwaith yn newid mae'n rhaid i'r heddlu fathu termau newydd am y troseddau sy'n cael eu cyflawni a'r dechnoleg maen nhw'n ei defnyddio i ddal y troseddwyr.

Mae'r angen di-baid yma am dermau Cymraeg newydd yn cadw uned gyfieithu Heddlu'r Gogledd yn brysur.

Cysylltodd Llifon Jones o'r uned â rhaglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru i rannu rhai o'r termau newydd maen nhw wedi eu bathu'n ddiweddar - ac i ofyn am help gydag un term yn benodol, sef 'county lines'.

Tacteg ydy hon sy'n cael ei defnyddio gan ddelwyr cyffuriau i fanteisio ar bobl eraill, plant yn aml, i werthu cyffuriau mewn ardal tu allan i'r ardal mae'r delwyr eu hunain yn byw ynddi, gan leihau'r tebygolrwydd o gael eu dal.

Maen nhw'n defnyddio llinellau ffôn symudol arbennig i gysylltu â nhw wrth eu hanfon ar draws yr ardal neu'r sir i werthu.

Wedi'r apêl ar raglen Aled Hughes cafwyd sawl cynnig gan wrandawyr Radio Cymru: "troseddu trawsffiniol", "llinellau llipryn", "llibart sir", "rhanbarth rheibio", "ffiniau bro", "cyffurffiniau", "ffiniau ffals".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae delwyr cyffuriau yn cysylltu gyda gwerthwyr o bell drwy ddefnyddio ffonau

Ond diolch hefyd i ddarllenwyr Cymru Fyw a ddaeth i'r adwy gyda'u cynigion nhw ar ôl inni ofyn am help.

"Un anodd!" meddai Melanie Davies cyn cynnig pedwar term: "drwgweithredu o'r ymylon"; "troseddu llechwraidd"; "terfynau troseddu"; a "cudd-ddelwyr sy'n camfanteisio".

"Llinellau lôn" oedd cynnig John Owen tra chynigiodd Meinir Pritchard "ffôn dros ffin".

Daeth "llinell cyffur" gan Mari Jones a "gweision gwasgar" gan Gwenda Jones - "Hynny yw bod gweision y rhai sy'n delio wedi eu gwasgaru?" meddai.

Roedd gan Manon Elwyn fwy nag un cynnig hefyd: "ffiniau ffonau"; "ffonau dros (y) ffiniau"; "sir(oedd) symudol".

"Arlwyo anghysbell" oedd cynnig Alice Hughes a "siffrwd sirol" oedd cynnig Ann sy'n byw yn Washington: "Mae siffrwd yn gallu golygu 'rustle' neu 'shuffle'," meddai.

Diolch o galon i bawb sydd wedi anfon eu cynigion - digon o ddewis i'r heddlu ddewis ohonyn nhw fan yna!

Dyma rai o'r termau Cymraeg newydd eraill mae'r uned wedi eu bathu yn ddiweddar:

Drone: (Teclynnau di-beilot i dynnu lluniau o'r awyr) - 'gwas y glas' (yng nghyswllt yr Heddlu)

Cuckooing: (Sef delwyr cyffuriau sy'n byw yn nhai pobl fregus ac yn delio cyffuriau yno) - 'cogio'. "Mae cogio yn golygu hefyd smalio, sef beth maent yn ei wneud - smalio eu bod yn y tŷ," meddai Llifon Jones.

Dashcam: (Y camera sydd ar flaen cerbydau heddlu a rhai cerbydau arferol hefyd) - 'camera cerbyd'

Body worn video: (Camera sy'n cael ei gario ar gorff llawer o heddweision ac sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth llys o drosedd)- 'camera corff'

Smart water: (A ddefnyddir gan yr adran fforensig i ganfod olion bysedd) - 'dŵr datgelu'

Hefyd o ddiddordeb: