Hanes anhygoel Henry Davies a chwmni Stepney Spare Wheel

  • Cyhoeddwyd

Os ewch chi fyth i India, mae'n debyg y clywch chi'r gair 'Stepney' yn cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at olwyn sbâr.

I unrhyw un sydd yn gyfarwydd â Llanelli, maen siŵr fod hyn yn annisgwyl, gan fod yr enw Stepney ynghlwm yn dynn â thref y sosban. Mae'r enw i'w weld ar draws y dref - yn strydoedd ac yn dafarndai a gwestai - felly beth yw'r cysylltiad ag olwyn sbâr yn India?

Yn 1906, cafodd cwmni The Stepney Spare Motor Wheel Ltd ei sefydlu gan y brodyr Thomas Morris a Walter Davies yn Llanelli.

Roedd y brodyr wedi bod yn gweithio fel haearnwerthwyr mewn siop ar Stepney Street ers 1895, ac fe gawson nhw'r syniad o greu olwyn sbâr ar gyfer ceir.

Bryd hynny, doedd gan ceir ddim olwynion sbâr, felly roedd cael twll yn yr olwyn yn drafferthus iawn i yrwyr.

Ffynhonnell y llun, The Stepney Spare Motor Wheel Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Thomas Morris a Walter Davies - dyfeiswyr olwyn sbâr Stepney

Cafodd y brodyr batent yn 1904 am y ddyfais arloesol. Roedd Olwyn Sbâr Stepney yn deiar llawn aer oedd ar olwyn gadarn, gyda chlampiau i'w osod dros yr olwyn fflat. Dim ond datrysiad dros dro oedd yr olwyn, er mwyn medru cyrraedd adref, ond lledodd ei boblogrwydd yn syth.

Roedd y busnes yn hynod llwyddiannus, ac erbyn iddyn nhw sefydlu'r cwmni yn 1906, roedd rhaid symud i waith mwy ar Heol Copperworks.

Erbyn hynny, roedd rhyw 2,000 o olwynion yn cael eu creu yno bob mis.

Dechreuodd boblogrwydd yr olwyn ledu ar draws y byd. Cafodd ffatrïoedd eu hagor ledled Ewrop ac America, a chwmnïoedd asiantaethau i'w gwerthu.

Yng nghatalog y cwmni yn 1909, roedd y cwmni yn brolio fod dros 75,000 o geir wedi cael eu ffitio ag olwyn Stepney.

Ffynhonnell y llun, The Stepney Spare Motor Wheel Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Brenin Sbaen yn ddefnyddiwr brwd o'r olwynion o Lanelli

Roedd y catalog hefyd yn cyfeirio at rai o'i gwsmeriaid dylanwadol, gan honni fod Olwyn Sbâr Stepney ar bob tacsi yn Llundain.

Roedd hefyd rhestr o'r "distinguished personages" oedd yn defnyddio'r olwyn, gan gynnwys Tsar Rwsia, Tywysog Coronog Yr Almaen, Tywysoges Cymru, Brenin Sbaen a Maharaja Natore.

Un brodor o Lanelli a oedd yn gweithio i'r cwmni yn y cyfnod cynnar hwnnw oedd Henry Davies - ac fe arbedodd hyn ei fywyd.

"Cafodd ei fagu ar fferm, ond doedd ganddo ddim diddordeb mewn ffermio, felly cafodd swydd â chwmni olwynion sbâr Stepney," meddai Siân Jones, ei wyres.

"Roedd yn gweithio yn bennaf yn y ffatri yn Fienna. Roedd yno o 1909 tan 1914, felly wrth reswm, dysgodd eitha' dipyn o Almaeneg."

Ffynhonnell y llun, Siân Jones
Disgrifiad o’r llun,

Henry Davies

Profodd hyn yn ffodus iawn iddo yn ystod y Rhyfel Mawr, pan oedd yn ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc.

"Yn 1917, cafodd e'i saethu, ac yn ôl y stori, roedd e wedi ei adael yn No Man's Land, gyda bwled yn ei gefn," eglurodd Lynn Davies, brawd Siân.

"Ffeindiodd un o filwyr Yr Almaen ef, ac roedd e am gwpla'r job gyda'r bayonet ar flaen ei ddryll - ond siaradodd Tad-cu ag ef mewn Almaeneg, a galwodd e am stretcher i fynd â fe i'r ysbyty yn lle ei ladd.

"Fuodd e reported missing am fisoedd - roedd y teulu'n meddwl ei fod e wedi cael ei ladd. Roedd e'n garcharor rhyfel am gyfnod, ac yn gwneud dipyn o gyfieithu Almaeneg.

"Daeth adre a nôl i weithio i'r cwmni, yn teithio a gwerthu'r olwyn, nes i'r ffatri ar Heol Copperworks gau yn yr 1920au."

Ffynhonnell y llun, Jaggery

Erbyn 1914, roedd y cwmni wedi dechrau gwneud teiars hefyd, ac erbyn yr 1920au, dyna oedd prif fusnes y cwmni.

Roedd y galw am olwynion sbâr wedi leihau, gan fod mwy a mwy o wneuthurwyr ceir yn darparu olwynion sbâr yn y ceir y barod. Felly bu'n rhaid i'r ffatri yn Llanelli gau.

Ond roedd poblogrwydd eithriadol yr olwyn wedi talu ar ei ganfed i'r ddau frawd. Daeth y ddau yn wŷr busnes cyfoethog, a llwyddodd eu dyfais i roi Llanelli ar y map.

Ac wrth gwrs mae dylanwad cwmni Stepney dal i'w glywed yn India, a gwledydd eraill ar draws y byd, pan fo olwyn angen cael ei newid!

Disgrifiad o’r llun,

Newid olwyn sbâr, neu Stepney, ar fws yn India