Eogiaid ifanc yn dychwelyd i afon wedi 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
![Young salmon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/BF40/production/_103306984_salmon1.jpg)
Mae eogiaid ifanc wedi cael eu cofnodi mewn rhan o Afon Elan ym Mhowys am y tro cyntaf ers degawdau.
Cafodd eogiaid a brithyll brown o dan flwydd oed eu gweld yn yr afon ychydig islaw Pentre-elan.
Mae'n dilyn cynllun tair blynedd i adfer ecoleg ar ddarn 4.3 milltir o'r afon islaw argaeau Cwm Elan.
Sefydliad Y Wysg a'r Gwy, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran y cynllun: "Mae gweld eogiaid ifanc yno yn arwydd ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir.
"Er hynny dyw'r gwaith ddim wedi ei orffen. Rhaid i ni barhau i ychwanegu graean er mwyn cwblhau beth sydd eisoes wedi bod yn gynllun llwyddiannus iawn, a pharhau i fonitro'r canlyniadau."
Cafodd argaeau Elan eu hadeiladu yn 1905, ac maen nhw wedi atal cyflenwad y graean naturiol i ran isaf Afon Elan. Ers hynny mae'r graean oedd yno wedi cael ei olchi i ffwrdd.
Dyna oedd yn angenrheidiol i fywyd yr afon, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 2,300 tunnell o raean wedi cael ei roi yn yr afon.
![afonydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7FAB/production/_103338623_4c2eb2fe-30b3-4508-8b45-37be8993606d.jpg)
Mae'r gwaith ar wely'r afon wedi caniatáu i eogiaid i ddeor yno
Dangosodd arolygon cychwynnol yn 2017 fod bywyd gwyllt yn dechrau dychwelyd i'r ardaloedd graeanu.
Bellach mae pysgod ifanc wedi cael eu cofnodi yno am y tro cyntaf ers i'r monitro ddechrau yn y 1970au cynnar.
Mae cynnydd mawr wedi bod hefyd yn nifer yr eogiaid ymhellach i lawr yr afon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017