Sefydlu tîm achub iseldir cyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Môn SarFfynhonnell y llun, Môn Sar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tîm Achub Môn wedi paratoi am unrhyw argyfwng

Mae tîm achub iseldir cyntaf Cymru yn barod i ddechrau gweithredu yn dilyn tair blynedd o hyfforddiant.

Mae'r tîm o tua 30 o wirfoddolwyr ar Ynys Môn yn cynnwys cyn-aelodau o'r lluoedd, seicolegydd ac astro-ffisegydd.

Cafodd Môn SAR (Search and Rescue) ei sefydlu yn 2015, ond mae wedi cymryd tair blynedd er mwyn hyfforddi pawb i'r lefel angenrheidiol.

Maen nhw bellach ar gael 24 awr y dydd i ymateb i geisiadau am gymorth gan yr heddlu a gwylwyr y glannau.

Arweinydd y tîm yw Andy Camwell, a dywedodd: "Ry'n ni wedi dod â chriw o bobl heb unrhyw brofiad bron, a chreu tîm a fydd yn gaffaeliad.

"Ry'n ni'n barod i weithredu o fryniau i ddŵr uchel - a cofiwch bod rhai o'r bryniau y gallen ni fod yn chwilio yn uwch na rhai yn Lloegr."

Andy Camwell
Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni'n unigryw," meddai Andy Camwell

Bydd y tîm yn gweithredu ar draws Ynys Môn o'r traethau i fryniau a fforestydd yr ardal.

Un o'r prif ddyletswyddau fydd cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am bobl fregus sydd ar goll, ac mae'r tîm yn rhagweld mai dyna fydd 80% o'u gwaith.

Yn wahanol i dimau achub mynydd, sydd yn aml yn gwybod lleoliad y person y maen nhw'n chwilio amdanynt - mae pwyslais Môn Sar yn fwy ar chwilio.

Eglurodd Mr Camwell: "Mae'r tîm wedi hyfforddi i chwilio, delio gydag argyfyngau meddygol, mordwyo ac i fedru cynorthwyo pobl fregus.

"Ry'n ni'n unigryw. Rhaid i ni fedru cyfathrebu'n effeithiol gyda gwylwyr y glannau, Heddlu'r Gogledd, timau achub mynydd a thimau achub dŵr - ry'n ni yma i helpu."

Training in woodsFfynhonnell y llun, Môn Sar

Am y misoedd cyntaf fe fydd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn goruchwylio'r tîm.

Dywedodd Prif Gwnstabl dros dro Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard: "Mae'r tîm wedi gweithio galed am fisoedd lawer i gyrraedd statws gweithredol, ac rwy'n falch i weld eu bod nhw wedi llwyddo gyda'r cam pwysig yma."

Môn Sar
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tîm yn defnyddio cyn fan heddlu fel canolfan rheoli symudol

Mae'r heddlu wedi rhoi hen gerbyd heddlu i'r uned er mwyn ei ddefnyddio i weithredu, ac er fod hwnnw'n cael ei gadw yng ngorsaf heddlu Llangefni ar hyn o bryd, mae'r tîm wrthi'n chwilio am ganolfan parhaol ar gyfer cadw'u hoffer.