Cymru dan-21 2-1 Liechtenstein dan-21
- Cyhoeddwyd
![George Thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11D5F/production/_97255037_gettyimages-470544482.jpg)
George Thomas yn chwarae i Gymru dan 18 yn erbyn Yr Almaen yn 2015
Yn dilyn llwyddiant Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Iau, mae'r tîm dan-21 wedi ennill eu gêm ddiweddaraf nhw brynhawn Gwener.
Roedd tîm Rob Page yn croesawu Liechtenstein i Stadiwm Dinas Bangor yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Dan-21 Ewrop.
Roedd dwy gôl gan George Thomas yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 2-1 gyda Lukas Graber yn hawlio gôl gysur i'r ymwelwyr tua'r diwedd.
Mae gan Gymru 13 pwynt yn eu grŵp gyda dwy gêm yn weddill. Portugal fydd yr ymwelwyr nesaf ddydd Mawrth, 11 Medi.
Prin yw gobeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol serch hynny.
Mae Bosnia Hercegovina ymhell ar y blaen ar frig y grŵp gyda Portugal yn ail.