Efeilliaid o Faes Garmon yn nhîm pêl-rwyd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Catrin (chwith) a Beca Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin (chwith) a Beca Hughes wedi eu cynnwys yng ngharfan dan-21 Merched Pêl-rwyd Cymru

Mae efeilliaid o'r Wyddgrug wedi cael eu dewis ar gyfer tîm pêl-rwyd Cymru i chwarae yng nghystadlaethau Ewrop.

Mae Catrin a Beca Hughes yn 16 oed a newydd ddechrau cyrsiau AS yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

"Mae'n brofiad anhygoel, yn enwedig bod 'na ddwy ohonan ni," meddai Catrin. "Mae'n anodd pan mae un yn cael fewn a tydi'r llall ddim, ond rŵan bod y ddwy ohonon ni, mae'n brofiad amazing."

Dywedodd Beca bod y fraint yn annisgwyl "gan bod ni ond yn 16 - mae'n gamp fawr iddyn ni fod yn rhan o'r squad".

Bydd y ddwy, sy'n ymarfer yn Yr Wyddgrug, Glannau Dyfrdwy a Chaerdydd yn wythnosol, yn teithio i Ogledd Iwerddon ym mis Hydref i gystadlu fel rhan o dim merched dan-21 Cymru.

'Haeddu llwyddiant'

Yn ôl y gefeilliaid mae cefnogaeth eu rhieni a staff yr ysgol yn help mawr wrth iddyn nhw gyfuno bywyd ysgol a'r gwaith "anhygoel o galed " o hyfforddi a gwella eu ffitrwydd.

Dywedodd Catrin eu bod yn mynd i'r gym tair gwaith yr wythnos ar ben yr hyfforddi rheolaidd yn Yr Wyddgrug, Glannau Dyfrdwy a Chaerdydd.

"Mae'n eithaf anodd ond mae'n rhaid i ni 'neud o i llwyddo," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emma Jones bod Beca a Catrin yn parhau traddodiad Ysgol Maes Garmon o 'gynhyrchu pêl-rwydwyr o safon'

Ychwanegodd Beca bod y cydbwyso wedi dod yn haws yn raddol. "Yn blwyddyn 11, roedd rhaid i ni neud yn siŵr ein bod ni'n adolygu digon a bod ni hefyd yn ymarfer pêl-rwyd," meddai.

"Weithiau mae'n dda i stopio adolygu a 'neud 'wbath gwahanol fel pêl-rwyd jest i gwahanu'r ddau."

Dywedodd Emma Jones, athrawes Addysg Gorfforol yn Ysgol Maes Garmon bod y gefeilliaid "wedi gweithio mor galed" ac yn "haeddu'r llwyddiant".

"Mae nhw ond yn 16 ac wedi ca'l i mewn i squad [dan-21] sy'n dangos pa mor dda ydyn nhw."

Ychwanegodd bod gan yr ysgol "draddodiad hir o gynhyrchu pêl-rwydwyr o safon... mae'n neis gweld nhw'n parhau efo'r traddodiad rŵan".

Mae Beca a Catrin yn gobeithio symud i Gaerdydd maes o law - cam fyddai'n gwneud hi'n haws iddyn nhw astudio ymarfer corff a hyfforddi.