Asbestos: Cyngor yn cyfri'r gost

  • Cyhoeddwyd
Ysgol TrefnynwyFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd Trefynwy wedi symud i safle newydd

Mae'n bosib y bydd y gost o glirio asbestos o ddwy ysgol uwchradd yn costio £350,000 yn i un o gynghorau Cymru.

Dywed adroddiad gan swyddogion Sir Fynwy fod y gost ychwanegol o ganlyniad i ganfod asbestos wrth ddymchwel hen adeiladau yn ysgolion Uwchradd Cil-y-coed a Threfynwy.

Mae'r ddwy ysgol wedi cael eu hadnewyddu fel rhan o fuddsoddiad o £90m gan y cyngor a Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth ysgol newydd Cil-y-coed agor ei drysau ym Medi 2017, ond bu'n rhaid oedi rhan o'r gwaith - gan gynnwys cymoni'r safle o amgylch yr adeiladau oherwydd yr asbestos.

Fe gafwyd hyd i asbestos yn ystod y gwaith o ddymchwel yr hen adeilad.

Fe ddaeth swyddogion y sir hefyd o hyd i asbestos yn Ysgol Uwchradd Trefynwy cyn i'r adeiladau yno gael eu dymchwel.

Mae'r ysgol wedi symud i safle newydd ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Mai 2019.

Dywed y sir fod yr holl asbestos wedi ei symud o'r ddau safle gan ddilyn y canllawiau priodol.

Fe fydd adroddiad yn cynnwys y gost ychwanegol o waredu asbestos yn cael ei drafod gan gynghorwyr ddydd Iau.