Canfod 'bom ymarfer' ar safle adeiladu yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod "gwrthrych amheus" gafodd ei ganfod ar safle adeiladu yn Sir Benfro yn fom ffug.
Cafodd swyddogion eu galw i'r safle ar Heol Fictoria yn Aberdaugleddau fore Mawrth yn dilyn pryderon fod bom rhyfel byd heb ei ffrwydro wedi ei ganfod.
Bu arbenigwyr ar y safle yn asesu'r gwrthrych, ac mae bellach wedi cael ei gludo ymaith.
Dywedodd yr heddlu fod y gwrthrych yn un gafodd ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion Ail Ryfel Byd, ond ei fod yn llawn concrit ac nad oedd wedi peri unrhyw fygythiad.