Cymru dan-21 0-2 Portiwgal dan-21
- Cyhoeddwyd
Cymru dan-21 0-2 Portiwgal dan-21
Roedd hi'n gêm yr oedd rhaid i Gymru ennill os am unrhyw obaith o gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop, ac fe ddechreuodd tîm ifanc Rob Page ar dân yn Stadiwm Dinas Bangor nos Fawrth.
Daeth llu o gyfleoedd cynnar i'r ddau dîm, ond y cyfle gorau yn y cyfnod agoriadol oedd pan wyroedd ergyd George Thomas oddi ar amddiffynwr - roedd yn anelu at gornel ucha'r rhwyd tan i golwr Portiwgal ei chyrraedd rhywsut.
Ond yna wedi 21 munud, fe ddaeth gôl wych i'r ymwelwyr.
Ergyd o 30 llath gan André Horta oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar yr egwyl, ac roedd hi'n un wych i gornel rhwyd Luke Pilling.
Mwy ymosodol
Gan wybod na fyddai gêm gyfartal yn ddigon hyd yn oed, fe aeth Cymru'n fwy ymosodol wedi'r egwyl gyda'r eilydd Rabbi Matondo'n dod yn agos gyda chic siswrn aeth o fewn modfeddi i'r postyn.
Cododd gobeithion y Cymry pan welodd Yuri Ribeiro gerdyn coch (ail gerdyn melyn) i Portiwgal wedi awr o chwarae.
Ond yna wedi 74 munud daeth ergyd arall wrth i'r ymwelwyr sgorio eto, ac roedd yr ail yn llawer mwy ffodus.
Fe wyrodd ergyd Joao Felix yn greulon heibio i Pilling ac i gornel isa'r rhwyd.
Daeth ambell gyfle arall i Gymru gyda pheniad gan Connor Evans yn gorfodi arbediad da arall gan Pereira, ond doedd dim yn tycio.
Er i Matondo - chwaraewr ifanc Manchester City - gyffroi'r dorf fwy nag unwaith gydag ambell i rediad disglair, Portiwgal oedd yn pwyso eto tua'r diwedd.