Angen profi cyffuriau mewn gwyliau i 'ddiogelu pobl'

  • Cyhoeddwyd
GreenmanFfynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un sy'n gweithio mewn gwyliau bod yr agwedd tuag at gyffuriau'n amrywio rhwng digwyddiadau

Wrth i dymor y gwyliau cerddorol ddod i ben, mae comisiynydd heddlu'n galw eto am brofi cyffuriau mewn digwyddiadau er mwyn achub bywydau.

Dywedodd comisiynydd gogledd Cymru, Arfon Jones wrth raglen Manylu bod rhaid cynnig y gwasanaeth gan nad ydy'r sefyllfa bresennol yn gweithio.

Dywedodd bod "cyfrifoldeb i ddiogelu" pobl sy'n cymryd cyffuriau, a'u helpu i wybod beth maen nhw'n ei gymryd.

Daw'r alwad ar ôl marwolaeth dau berson ifanc yng ngŵyl Mutiny yn ne Lloegr yn gynharach yn yr haf. Yn ôl adroddiadau roedden nhw wedi cymryd cyffuriau.

'Nifer yn cynyddu'

Roedd y comisiynydd yn siarad ar raglen Manylu ar Radio Cymru, sy'n edrych ar ddiogelwch gwyliau a sioeau dros Brydain.

Mae rhai o'r 1,000 o wyliau sy'n cael eu cynnal bob blwyddyn eisoes yn cynnig gwasanaeth profi cyffuriau, i bobl wybod beth maen nhw'n ei gymryd.

Ond dywedodd Mr Jones bod "nifer y bobl sy'n marw trwy orddos o gyffuriau yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon Jones yn dweud bod "cyfrifoldeb" i helpu pobl wybod beth sydd yn y cyffuriau maen nhw'n eu cymryd

Ychwanegodd: "'Da' ni fyny rwan i tua 3,500 o bobl ac mae ganddo ni gyfrifoldeb i ddiogelu y bobl yma neu i helpu nhw os ydyn nhw'n benderfynol o gymryd cyffuriau, i wneud yn siwr bod nhw yn cymryd cyffuriau un ai mewn lle saff neu wedi eu profi.

"Yn aml iawn, mae pobl yn prynu cyffuriau yn meddwl bod o'n un peth, a maen nhw'n rhywbeth arall neu maen nhw'n gryfach na be' oedda' nhw'n ddisgwyl."

Rhybudd cyffuriau cryf

Bu farw dau berson ifanc yng ngŵyl Mutiny yn gynharach yn yr haf, ac yn ôl adroddiadau roedden nhw wedi cymryd cyffuriau.

Bu rhybuddion hefyd mewn gwyliau am dabledi ecstasi cryf iawn ar werth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cian Llywelyn yn gweld bod gwahanol wyliau yn delio â chyffuriau'n wahanol

Yn ôl Cian Llywelyn o Gaernarfon, sy'n gweithio gyda chwmni adeiladu meysydd gwyliau, mae agweddau tuag at gyffuriau yn "amrywio o ŵyl i ŵyl".

"Pan mae'n dueddol o fod lot o bobl yn cymryd cyffuriau mae'r heddlu a diogelwch bach mwy llym o ran gadael nhw fewn i'r ŵyl a chwilio bagiau a pethau felly.

"Ond mewn gŵyl fel Rhif 6, lle does dim gymaint â hynny o bobl yn cymryd cyffuriau dwi ddim yn meddwl, maen nhw'n ymlacio tipyn achos does dim modd stopio pawb a 'dy nhw ddim yn creu trafferth, 'dy nhw ddim yn gwneud trwbl i neb.

"Felly mae'n amhosib stopio fe, felly maen nhw'n gadael o ddigwydd a chadw llygad mas."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr Eisteddfod bolisi dim cyffuriau ym Maes B a gweddill y safle

Mae'r rhaglen hefyd yn clywed gan Huw Aled, Pennaeth Technegol yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dweud bod ganddyn nhw bolisi o beidio gadael unrhyw gyffuriau i mewn i Faes B nac unrhyw ran arall o'r Eisteddfod.

Gall unrhyw un sydd â chyffuriau eu rhoi mewn bin amnest, ond os nad oedden nhw'n gwneud, ac yna'n cael eu dal, bydden nhw'n cael eu cyfeirio at yr heddlu.

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn meddwl bod y bobl sy'n dod i'r Eisteddfod yn wahanol i bobl sy'n mynd allan mewn unrhyw le arall yng Nghymru."

Dywedodd Dafydd Orritt, sy'n 18 oed ac o Ddyffryn Peris, bod cyffuriau yn amlwg ym Maes B ar Ynys Môn y llynedd, er gwaetha'r chwilio manwl gan swyddogion diogelwch.

Ychwanegodd bod y sefyllfa yn llawer gwell eleni: "Mae Maes B eleni lot saffach. Lot llai o ddrygs, lot llai o yfed dan oed hefyd, dwi'n meddwl achos bod o mewn dinas ella a lot mwy o security a heddlu ar gael mae'n siŵr."

Manylu - Diogelwch Gwyliau, 12:30 ddydd Iau, 16:00 ddydd Sul ar Radio Cymru, ac ar yr iPlayer.