Siop Iwan yn cau drysau wedi 30 o flynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd siop sydd wedi bod yn gwasanaethu pobl Caernarfon am dros 30 o flynyddoedd yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn nesaf, 22 Medi.
Dywedodd perchennog Siop Iwan, Iwan Evans, ei fod yn "benderfyniad anodd a bod hi'n drist," ond ei fod hefyd yn edrych ymlaen at bennod newydd.
"Rwyf i a'm gwraig Menna am ddiolch i'n holl gwsmeriaid sydd wedi bod yn gwmni da a ffyddlon dros y blynyddoedd."
Dywedodd fod y gwaith o gynnal y siop, sy'n gwerthu papurau newydd ac anrhegion, yn anodd ac yn golygu oriau hir, o 06:00 tan 19:00.
"Ro'n i wedi gobeithio ei gwerthu fel 'going concern', ond ma' wedi bod ar y farchnad am 10 mlynedd a heb ei gwerthu.
"Dwi'n dechrau mewn swydd newydd gydag Antur Waunfawr dydd Llun, a bydd un o'r merched yn edrych ar ôl y siop am wythnos cyn i ni gau'r drysau."
Dywedodd Sioned Evans, un o'r merched, eu bod nhw fel teulu "wedi cael andros o lot o bobl yn dweud diolch, mae wedi bod yn anhygoel fod y newyddion wedi cyrraedd gymaint o bobl".
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.