Guto Harri'n ymddiswyddo o Awdurdod S4C
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cadarnhau bod Guto Harri wedi ymddiswyddo fel aelod o awdurdod y sianel.
Daw ymddiswyddiad Mr Harri yn sgil penderfyniad S4C i gomisiynu dwy gyfres bellach o "Y Byd yn ei Le" - y gyfres lle mae'n herio gwleidyddion ac yn sylwebu ar bynciau'r dydd.
I osgoi "unrhyw ganfyddiad o wrthdaro buddiannau", mae Mr Harri hefyd wedi nodi ei fod eisiau canolbwyntio ar waith darlledu a newyddiadura.
Dywedodd ei bod hi wedi bod yn "fraint ac yn bleser cael helpu'r Cadeirydd, Awdurdod a thîm rheoli S4C i roi'r sianel yn ôl ar dir cadarn o ran cyllid, cynulleidfa a chyfeillion".
Mae Guto Harri yn newyddiadurwr a gohebydd profiadol, sydd wedi bod yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus i Boris Johnson ac i gwmni Rupert Murdoch, News UK yn y gorffennol.
'Cyfraniad gwerthfawr'
Dechreuodd ei yrfa gyda BBC Cymru lle aeth ymlaen i ohebu yn yr Almaen wrth i gomiwnyddiaeth ddod i ben yno, o Rwmania yn ystod y gwrthryfel yn erbyn Nicolae Ceaucescu ac o Irac yn ystod Rhyfel y Gwlff.
Ychwanegodd Mr Harri: "Dan arweinyddiaeth newydd Owen Evans ac Amanda Rees mae'r dyfodol yn gyffrous a llawn addewid."
Yn dilyn y penderfyniad dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones:"Mae Guto wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr ac egnïol dros y pedair blynedd y bu'n aelod o Awdurdod S4C, ac fe fydd yn arw gennym ei golli ei fel aelod.
"Wrth gwrs rydym yn falch fod ei sgiliau a'i brofiad newyddiadurol ar gael ar sgrin S4C unwaith yn rhagor, ac rydym yn edrych ymlaen at y gyfres newydd o "Y Byd yn ei Le," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2018