Llywodraeth y DU yn penodi tri aelod arall i Awdurdod S4C
- Cyhoeddwyd

Mae tri aelod newydd wedi cael eu penodi i Awdurdod S4C, y corff sydd yn goruchwylio gwaith y sianel.
Fe fydd y tri - Owen Derbyshire, Anita George a Rhodri Williams - yn gwasanaethu yn y rôl am bedair blynedd.
Maen nhw'n ymuno â chwe aelod presennol yr awdurdod sy'n cynnwys y cadeirydd Huw Jones, y newyddiadurwr Guto Harri a phennaeth yr Urdd, Sian Lewis.
Mae aelodau'r awdurdod yn cael £9,650 y flwyddyn, ac yn cael eu penodi gan Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU.
'Arweinwyr yn eu meysydd'
Tan yn ddiweddar roedd Rhodri Williams yn gyfarwyddwr ar Ofcom yng Nghymru, a chyn hynny bu'n gadeirydd ar Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae Anita George yn gyfreithwraig sydd wedi gweithio yn y DU a Hong Kong, ac yn gyd-sylfaenydd ar gwmni ymgynghori annibynnol Partneriaeth Hillcrest.
Owen Derbyshire yw sylfaenydd a phrif weithredwr Properr Software, ac mae hefyd yn gweithio fel prif ymgynghorydd i Twenty One Group.

Owen Derbyshire, sy'n 27 oed, yw aelod ieuengaf Awdurdod S4C
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Bydd dod ag Anita, Owen a Rhodri i'r bwrdd yn cryfhau gallu S4C i fanteisio ar y cyfleoedd newydd sydd o'n blaenau.
"Maent yn arweinwyr yn eu meysydd a bydd eu harbenigedd, eu profiad a'u safbwyntiau ffres yn cryfhau'r bwrdd ymhellach ar y cam pwysig a chyffrous hwn yn hanes y sianel."
Ychwanegodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: "Mae'r tri aelod newydd yn berchen ar ystod eang o brofiad a sgiliau fydd yn berthnasol iawn i waith S4C yn y blynyddoedd sy'n dod. Rwy'n falch iawn o'u croesawu i fwrdd yr awdurdod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2018