Llafur Cymru'n trafod newid trefn ethol arweinydd

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gynhadledd yn penderfynu ar sut y bydd modd pleidleisio ar gyfer yr arweinydd newydd i olynu Carwyn Jones

Fe fydd y Blaid Lafur yn penderfynu ar y rheolau i ethol ei arweinydd nesaf mewn cynhadledd arbennig yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'n dilyn misoedd o ddadlau ynglŷn â faint o ddylanwad dylai'r aelodau cyffredin gael dros y gystadleuaeth.

Gallai penderfyniad y gynhadledd gael effaith fawr ar ganlyniad y ras i fod yn brif weinidog Cymru.

Bydd y gynhadledd naill ai'n dewis defnyddio'r drefn un-aelod-un-bleidlais, fel y mae Llafur yn gwneud yng ngweddill Prydain, neu ddiwygio'r drefn bresennol.

Newid y drefn

Mynna rhai yn y blaid bod pob aelod - yn ogystal ag aelodau'r undebau a grwpiau cysylltiedig - yn cael pleidlais gyfartal.

Fe fyddai'r opsiwn arall yn newid coleg etholiadol Llafur Cymru, gan roi hanner y bleidlais i aelodau'r blaid a hanner i aelodau cysylltiedig.

Mae'n dilyn adolygiad gan yr Arglwydd Murphy ar ôl i gefnogwyr y drefn un-bleidlais brotestio yn erbyn penderfyniad y blaid i gadw at ei choleg etholiadol draddodiadol.

Mae'r coleg presennol yn rhannu'r bleidlais yn dair rhwng aelodau, undebau a gwleidyddion.

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford, sy'n sefyll yn y ras i olynu Carwyn Jones, yn ffafrio'r drefn un-aelod-un-bleidlais

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, a'r ffefryn i olynu Carwyn Jones fel arweinydd, Mark Drakeford, yn gefnogwr blaenllaw o'r drefn un-aelod-un-bleidlais.

Mae'r undeb mwyaf, Unite Cymru, hefyd o blaid.

Dywedodd ei ysgrifennydd rhanbarthol newydd ar gyfer Cymru, Peter Hughes, y byddai diwygio'r coleg yn gwaethygu'r holltau yn y blaid.

Grey line

Dadansoddiad Daniel Davies, Gohebydd Gwleidyddol

I rai, bu'n arwydd o'r ffordd mae Llafur Cymru wedi gwarchod statws arbennig yr undebau.

I eraill, mae'r coleg etholiadol wedi taflu cysgod dros y blaid ers datganoli.

Dan reolau'r coleg, fe fethodd Rhodri Morgan ennill yr arweinyddiaeth yn 1999, gan fethu â churo Alun Michael er iddo gael mwy o gefnogaeth gan aelodau cyffredin y blaid.

Digwyddodd yr un peth fis Ebrill eleni, pan gollodd ei weddw, Julie Morgan, y dirprwy arweinyddiaeth, er iddi hi hefyd arwain y ras ymhlith yr aelodau ar lawr gwlad.

Mae'r hen goleg yn rhannu'r bleidlais dair ffordd: rhwng aelodau'r blaid, undebau a grwpiau cysylltiedig, a gwleidyddion.

Yng ngweddill Prydain, mae Llafur eisoes wedi ei ddileu. Cafodd Jeremy Corbyn ei ethol yn arweinydd ddwywaith dan y drefn un-aelod-un-bleidlais.

Byddai'r naill opsiwn sydd ar gael i'r gynhadledd heddiw'n cael gwared ar y rôl arbennig sydd gan wleidyddion.

Ond gyda chefnogaeth frwd gan grwpiau etholaethol y blaid a Unite, gallai fod yn ddiweddglo ar drefn sydd wedi hollti barn ers blynyddoedd.

Grey line

Bydd Carwyn Jones yn ildio'r awenau i'w swydd fel arweinydd Llafur Cymru ym mis Rhagfyr.

Ar hyn o bryd, dim ond Mr Drakeford a Vaughan Gething sydd wedi sicrhau digon o enwebiadau i sefyll yn y ras i'w olynu.

Mae Eluned Morgan, Alun Davies a Huw Irranca Davies hefyd wedi dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn sefyll, ond nid oes ganddynt yr un enwebiad eto.