Dedfrydu prifathrawes am greu lluniau anweddus

  • Cyhoeddwyd
Rhian DeSouza
Disgrifiad o’r llun,

Cuddiodd Rhian DeSouza ei hwyneb wrth fynd i Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener

Mae prifathrawes ysgol gynradd sydd wedi cyfaddef creu lluniau anweddus o blentyn wedi derbyn gorchymyn cymunedol o ddwy flynedd.

Cafodd Rhian DeSouza, 43 oed, ei hatal o'i gwaith yn Ysgol Gymraeg Gellionnen yng Nghlydach, ger Abertawe.

Clywodd Llys y Goron Abertawe sut y cafodd yr heddlu hyd i'r lluniau anweddus, a oedd wedi eu dileu o ffôn DeSouza, drwy ddefnyddio meddalwedd arbenigol.

Mae datganiad gan Ysgol Gellionnen wedi pwysleisio nad oedd y cyhuddiadau yn "ymwneud â'r un disgybl na chyn-ddisgybl".

Doedd y ferch 16 oed yn y lluniau ddim yn un o ddisgyblion DeSouza, ond roedd DeSouza wedi ei hadnabod ers ei bod yn 13 oed.

Clywodd y llys bod DeSouza a'r ferch - unwaith iddi droi'n 16 oed - wedi dechrau perthynas rywiol, gydsyniol.

Fodd bynnag, ym mis Mehefin, darganfyddodd mam y ferch bod y ddwy mewn perthynas ac mi gysylltodd gyda'r heddlu.

Roedd y ferch wedi anfon lluniau o natur bersonol at DeSouza, a gafodd eu dileu oddi ar ei ffôn.

Ffynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gymraeg Gellionnen wedi rhyddhau datganiad i bwysleisio nad oedd y cyhuddiadau yn ymwneud â'r un disgybl na chyn-ddisgybl yn yr ysgol

Yn Llys Ynadon Llanelli ym mis Awst, cyfaddefodd DeSouza i ddau gyhuddiad o wneud lluniau anweddus.

Dywedodd y barnwr Paul Thomas QC ei fod yn "eithriad yn y gyfraith" bod DeSouza yn gallu cael perthynas rywiol gyfreithlon gyda'r ferch ond nid oedd yn gallu cadw ffotograffau o natur bersonol ohoni yn ei meddiant.

Fodd bynnag, ychwanegodd y dylai DeSouza, a hithau'n brifathrawes, fod yn gwybod bod cadw'r fath ffotograffau yn anghyfreithlon.

Bydd DeSouza ar y gofrestr troseddwyr rhyw am bum mlynedd.

Cwestiynodd y Barnwr Thomas ddoethineb a pha mor addas oedd hi i DeSouza fod mewn perthynas gyda'r ferch, ond dywedodd nad oedd yn anghyfreithlon. "Nid llys i drafod moesoldeb yw hwn, ond llys i drafod y gyfraith."

Dywedodd bod y difrod a achoswyd gan gyhoeddusrwydd yr achos a'r ffaith ei bod wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa i fod ym meddiant y fath luniau yn debygol o'i hatal rhag gweithio fel athrawes byth eto.