Mesur addysg ddim er budd disgyblion
- Cyhoeddwyd
Gallai'r ffordd mae ysgolion yn cael eu mesur olygu bod rhai penaethiaid yn gwneud penderfyniadau nad ydynt bob tro er budd disgyblion, yn ôl cyfarwyddwr undeb dysgu.
Mae Tim Pratt o ASCL Cymru o'r farn bod enghreifftiau o ddisgyblion yn cael eu symud oddi ar gofrestr ysgol er mwyn osgoi bod eu graddau TGAU yn cyfrif at ddata'r ysgol.
Ond ychwanegodd nad oedd yn credu ei fod yn broblem fawr yng Nghymru, ar ôl i bwyllgor seneddol godi pryderon ei fod yn digwydd mewn ysgolion yn Lloegr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi pwysleisio "na fydd unrhyw dystiolaeth o eithrio plant oddi ar y gofrestr yn cael ei dderbyn".
Mae Ofsted, sy'n arolygu ysgolion yn Lloegr, wedi codi cwestiynau ynglyn â nifer y disgyblion mewn rhai ysgolion sydd wedi symud o gofrestr yr ysgol i gael eu haddysg mewn lleoliadau fel Unedau Cyfeirio Disgyblion, neu i gael eu haddysgu adref.
Dydy canlyniadau arholiadau y plant yna ddim yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgolion.
Newidiadau sylweddol
Yn ôl Estyn, sy'n arolygu ysgolion Cymru, maent yn ymwybodol o newidiadau i gofrestrau ysgolion.
Cafodd ei gadarnhau bod "newidiadau sylweddol i gofrestr Blwyddyn 10 ac/neu 11" mewn rhai ysgolion a bod y wybodaeth hynny yn "cael ei defnyddio ar gyfer asesiad o'r ysgol".
Yn ogystal, cafodd ei ddatgelu eu bod yn "cynnal dadansoddiadau pellach ar lefel yr ysgol, yr awdurdod lleol ac yn genedlaethol [i'r mater] yn ystod y tymor hwn".
Yn ôl Tim Pratt, cyfarwyddwr ASCL Cymru, mae enghreifftiau o symud plant oddi ar y gofrestr yn digwydd yng Nghymru, ond ddim ar yr un raddfa â Lloegr.
"Ond o'r dystiolaeth sydd gennym ni, fasa ni ddim yn ei ystyried yn fater o bwys eang, ond chwaith does dim modd gwadu ei fod yn digwydd," meddai.
"Ein barn ni yw y dylai lles y plentyn fod yn flaenoriaeth.
"Mae pwysau ar ysgolion, mae pwysau ar arweinwyr ysgol weithiau'n gallu eu harwain i wneud penderfyniad na fydden nhw yn ei wneud mewn amgylchiadau eraill."
Ond mae Mr Pratt yn credu bod newidiadau yn ymwneud â mesurau atebolrwydd, sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i leddfu'r sefyllfa.
Codi uchelgais
Yn y gorffennol, mae canran y disgyblion sy'n llwyddo i gael 5 A * i C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg, wedi bod yn fesur pwysig o berfformiad ysgol, ond fel rhan o'r newidiadau bydd hyn yn dod i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i ysgolion weithredu er budd eu disgyblion ac mi oedden ni'n gwbl glir yn ein Cynhadledd Penaethiaid Uwchradd ym mis Mawrth na fydd unrhyw dystiolaeth o eithrio plant oddi ar y gofrestr yn cael ei derbyn.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phenaethiaid ar ystod o fesurau perfformiad newydd dros dro, sy'n rhoi mwy o bwyslais ar godi ein huchelgais ar gyfer pob dysgwr.
"Bydd y mesurau newydd hyn yn dileu'r ffocws cul ar gyflawni graddau C yn unig, sydd wedi bod yn digwydd o ganlyniad i'r mesurau cyfredol."
Ychwanegodd y llefarydd bod pob plentyn yn bwysig a bod ysgolion a'r undebau wedi croesawu'r newidiadau fel "ffordd llawer tecach o fesur perfformiad".
Yn ôl un sydd wedi gweithio'n helaeth ym maes ieuenctid, Helen Mary Jones AC, mae'n poeni am y modd mae ysgolion yn cael eu mesur.
"Mae ysgol yn fwy na ffigyrau TGAU neu lefel A," meddai.
"Mae'r gefnogaeth mae ysgolion yn rhoi i'r plant mwya' bregus, y plant sy'n ffeindio'r ysgol fwya' anodd yn rhywbeth ddylen ni fod yn mesur a chyhoeddi a chanmol hefyd - [mae angen cydnabod] ysgol sy'n llwyddo i gefnogi plant sydd falle yn heriol, sydd falle â phroblemau gartref ac sy'n helpu plant i gael rhywfath o gyrhaeddiad academaidd.
"Maen nhw'n gwneud job yr un mor bwysig â'r rhai sy'n cefnogi'r plant galluog i gael sawl A*.
"Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar y busnes yma achos os mae na un ysgol yn Nghymru sy'n eithro un plentyn o'r ysgol er mwyn gwella'r ffigyrau TGAU neu Lefel A mae hwnna'n gam difrifol."
Mae cyn-bennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda, yr ymgynghorydd addysg Alun Llwyd, yn croesawu diwygiadau i'r ffordd mae ysgolion yn cael eu hasesu.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i chi gael rhyw fesur i sbïo ar berfformiad yr ysgol gyfan. O ran Estyn, mae 'na bryder bod 'na ddibynnu'n ormodol ar ddata dangosyddion perfformiad yn y gorffennol.
"Mae hynny wedi newid yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwetha yma, ac mi fydd newidiadau i'r modd y bydd Estyn yn arolygu ysgolion ac mi fydd hynny'n golygu bydd llawer llai o bwyslais ar y data," ychwanegodd.
"Bydd hynny'n rhyddhad i benaethiaid ysgolion hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018