Therapi ceffylau ar gyfer dioddefwyr trais yn y cartref

  • Cyhoeddwyd
Lindsey Crosbie

Mae ceffylau yn cael eu defnyddio fel rhan o therapi i drin dioddefwyr trais yn y cartref yn y gogledd.

Mae'r cynllun, sy'n rhoi cyfle i ddioddefwyr sydd wedi goroesi achosion o drais yn y cartref ddatblygu sgiliau newydd, ar gael ar hyd Ynys Môn a Gwynedd.

Yn ôl yr hyfforddwr marchogaeth Lindsey Crosbie, mae'r gweithgaredd yn fath o "fodel ar gyfer adeiladu perthynas gadarnhaol."

Mae'n cael ei gynnal ar draeth Morfa Bychan ger Porthmadog a'i ariannu gan Comic Relief.

Sefydliad nid-er-elw Y Welsh Institute of Therapeutic Horsemanship, a Gorwel,gwasanaeth trais yn y cartref, sydd yn gyfrifol am y cynllun.

Cynyddu hyder

Caiff y merched gyfle i ymwneud a sawl ceffyl sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig er mwyn datblygu hunan hyder a dysgu sgiliau marchogaeth syml.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Katie Jones mae'r cynllun yn gallu helpu dioddefwyr i gryfhau eu hunan hyder

Does bron neb sydd yn dod atom wedi cyffwrdd a cheffyl o'r blaen, weithiau mae pobl yn cael eu dychryn ganddynt" meddai Ms Crosbie.

"Mae pob un o'r grwpiau o ferched sydd wedi dod atom wedi dod yn fwy hyderus, digon hyderus fel eu bod nhw wedi mynd yn eu blaen i farchoga yn llwyddiannus - sydd yn anhygoel."

'Newid bywyd'

Dywedodd Katie Jones, sydd yn gweithio i wasanaeth trais yn y cartref Gorwel: "Erbyn yr ail neu'r drydedd wythnos mae yna newid clir i'w weld - y gallu i gyfathrebu, i deimlo'n gyfforddus gyda'r ceffylau a gyda nhw'i hunain,".

"Mae'n broses wythnosol, ac mae'n anhygoel faint o wahaniaeth sydd i'w weld. Erbyn diwedd yr wythfed wythnos mae eu hyder tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir.

"Gall ymddangos yn od bod anifail yn gallu helpu i newid bywyd - ond mae'n wir."

Ychwanegodd Ms Jones eu bod nhw angen bod yn hyderus i arwain y ceffylau, a bod hyn yn gymorth mawr o ran codi hyder ar gyfer bywyd pob dydd.