Pen-blwydd hapus i'r Cob

  • Cyhoeddwyd

Syniad uchelgeisiol gŵr o'r enw William Alexander Maddocks oedd Cob Porthmadog, a agorwyd yn swyddogol ar Fedi 17, 1811.

Disgrifiad,

Pwy sy'n cofio gorfod talu 5 ceiniog i groesi Cob Porthmadog?

Roedd Maddocks yn Aelod Seneddol cyfoethog o Swydd Lincoln, ond â gwreiddiau yn Sir Ddinbych, fe brynodd wahanol ddarnau o dir yn ardal Traeth Mawr, Porthmadog.

Dau aderyn...

Roedd dwy ran i'w weledigaeth. I ddraenio'r tir yn ardal Traeth Mawr er mwyn gwneud hi'n bosib i'w ffermio, a datblygu'r ffordd i greu llwybr hawdd tuag at borthladd Porthdinllaen, yn Llŷn.

Ar y pryd roedd yna bosibilrwydd y byddai'r porthladd yn datblygu i fod yn brif borthladd rhwng Cymru ac Iwerddon.

Gorffennodd y gwaith o adeiladu'r Cob yn 1811, ac ar Fedi 17, trefnodd Maddocks barti agor swyddogol oedd yn cynnwys Eisteddfod, a barodd am bedwar diwrnod.

Fe gostiodd y Cob bob ceiniog oedd gan Maddocks ac felly roedd hi'n rhyddhad mawr iddo pan gwblhawyd y gwaith, ac roedd hi'n bosib iddo ddechrau codi arian ar bobl i groesi'r morglawdd.

Disgrifiad o’r llun,

Petrusgar oedd y wên ar wyneb Maddocks...am reswm da!

Wedi colli mas...

Wedi storom enfawr flwyddyn yn ddiweddarach a dorrodd dwll yn y morglawdd, cododd Maddocks arian o wahanol ffynonellau i'w drwsio a'i gryfhau. Ail agorodd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1814, ond roedd y ddwy flynedd o segurwch wedi taro Maddocks yn galed yn ei boced.

Yn ogystal, roedd Caergybi wedi datblygu i fod yn brif borthladd i Iwerddon, ac felly nid oedd cymaint o ddefnydd ar y Cob ag yr oedd wedi ei obeithio.

Yn 1821, â'r diwydiant llechi wedi dechrau ffynnu, rhoddwyd caniatâd Seneddol i adeiladu porthladd yn Ynys Y Tywyn, ar ben pella'r Cob, er mwyn allforio'r llechi oedd yn dod lawr o Flaenau Ffestiniog tua 12 milltir i ffwrdd.

Allforio ar draws y byd

Adeiladwyd rheilffordd fach o Flaenau Ffestiniog, oedd yn croesi'r Cob i gario'r llechi i'r porthladd newydd yn Ynys Y Tywyn, wnaeth ddatblygu'n gyflym i fod yn Borthmadog.

Wedi dechrau digon sigledig felly, llwyddodd Maddocks i wneud bywoliaeth digon derbyniol o'r Cob tan iddo farw o salwch tra ar ei ffordd nôl o'r Eidal ar Medi 15, 1826.

Cafodd ei gladdu ym Mharis, 15 mlynedd i'r diwrnod wedi agoriad swyddogol y Cob.

Parhau i gasglu arian

Llwyddodd disgynyddion Maddocks i elwa o'r doll am flynyddoedd, tan i ymddiriedolaeth leol, Ymddiriedolaeth Rebecca ddechrau casglu tollau er budd achosion lleol tua chanol y 1970au.

Nhw oedd yn gyfrifol am yr olygfa gyfarwydd i ymwelwyr â thref Porthmadog o weld tagfeydd hir o draffig yn aros i dalu pum ceiniog i groesi'r Cob i mewn i'r dref, fel y gwelwch chi yn y fideo uchod.

Ar Fawrth 29, 2003, casglwyd y pum ceiniog olaf o'r Cob wedi i Lywodraeth Cymru brynu'r morglawdd gan Ymddiriedolaeth Rebecca.

Hefyd o ddiddordeb: