Rhodd anhysbys yn galluogi triniaeth i gerdded
- Cyhoeddwyd
Mae rhodd anhysbys o £37,000 wedi galluogi merch gyda pharlys yr ymennydd i gael llawdriniaethau arbenigol i'w helpu i gerdded.
Bu Jade Owen yn ceisio codi arian ers blynyddoedd i fynd i America am y driniaeth, cyn derbyn rhodd anhysbys yn gynharach eleni.
Mae hi wedi defnyddio cadair olwyn ers ei bod yn 11 oed, ond bellach, gall Jade, sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gerdded gyda chymorth.
Dywedodd ei bod yn awyddus i ddiolch am y rhodd a'i fod wedi "galluogi iddi wireddu ei breuddwyd i allu cerdded".
Nid oes gan Ms Owen syniad hyd heddiw pwy ariannodd ei llawdriniaethau, oedd yn cynnwys rhisotomi dethol ar ei chefn (SDR).
Nid oedd yn gallu derbyn y driniaeth arbenigol drwy'r GIG oherwydd ei hoed a difrifoldeb ei chyflwr.
'Dibynnu ar y gymuned'
Dywedodd Ms Owen iddi deimlo bod rhaid iddi "erfyn" ar bobl am arian i dalu am y driniaeth.
"Mae'n ofnadwy bod ni'n gorfod dibynnu ar y gymuned i'n helpu ni - y GIG ddylai fod yn ein helpu," meddai.
"Nhw yw ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol, a dydyn nhw ddim yn ein cefnogi nac yn ein helpu ni."
Er ei bod wedi ymateb yn dda i'r driniaeth, mae Ms Owen yn credu y byddai'r canlyniadau wedi bod yn well petai wedi cael y driniaeth yn gynt.
"Dwi wedi cael gwybod y byddwn wedi bod llawer mwy annibynnol petawn wedi cael y llawdriniaeth yn ifancach - ac o bosib yn cerdded, fyddai 'na ddim sbastigrwydd dros ben yno," meddai.
"Byddai wedi bod llawer haws petawn wedi cael hyn pan oeddwn yn ifancach."
Serch hynny, mae Ms Owen wrth ei bodd gyda'r newid mae hi wedi gweld ers y llawdriniaeth, a bod gallu eistedd â llai o help yn gam enfawr ymlaen.
"Mae gallu eistedd heb syrthio drosodd yn anhygoel. Roeddwn arfer eistedd gyda llawer o obenyddion o'm hamgylch i, ond nawr, dim ond un sydd angen arna' i - mae hynny'n gam mawr i fi," meddai.
Ymateb y llywodraeth
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, cafodd triniaeth SDR ei gomisiynu fel rhan o gynllun peilot gan GIG Cymru a Lloegr, ac mae'r "canlyniadau llawn i'w disgwyl erbyn diwedd eleni".
"Bydd y dystiolaeth yna'n cael ei defnyddio i ystyried a ddylai'r driniaeth fod ar gael o fewn GIG Cymru, a gall clinigwyr wneud cais i'r driniaeth gael ei ariannu i banel Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) dan eu bwrdd iechyd lleol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2017
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2015