Davies yn ad-drefnu grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd newydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, wedi ad-drefnu ei dîm wrth i'r Senedd ailddechrau yn dilyn gwyliau'r haf.
Darren Millar fydd yn olynu Mr Davies fel y prif chwip, gyda Suzy Davies yn gyfrifol am y briff addysg.
Bydd Andrew RT Davies, a ymddiswyddodd fel arweinydd ym mis Mehefin, yn llefarydd ar yr amgylchedd, cynaliadwyedd a materion gwledig.
Nick Ramsay sydd yn parhau fel llefarydd ar gyllid, gyda Angela Burns a Russell George yn gyfrifol am iechyd a'r economi.
Mr George, AC ar gyfer Maldwyn, fydd y prif lefarydd ar gyfer canolbarth Cymru hefyd.
Cafodd Mr Davies ei ethol fel arweinydd yn dilyn pleidlais o aelodau'r blaid yn gynharach ym mis Medi.
Y Ceidwadwyr yw'r ail blaid fwyaf yn y Cynulliad ar ôl Llafur, gyda 12 Aelod Cynulliad gan gynnwys yr AC annibynnol Mark Reckless.
Mae Mark Isherwood yn ychwanegu llywodraeth leol at rôl flaenorol fel llefarydd ar ran cymunedau a gogledd Cymru.
Bydd gan Mohammad Ashgar gyfrifoldebau ychwanegol hefyd wrth iddo gael ei enwi fel y llefarydd ar addysg uwch, sgiliau a ffydd.
Mae modd gweld y newidiadau yn llawn ar wefan y Ceidwadwyr Cymraeg, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018