£36m i ddatblygu deunyddiau adeiladu all greu ynni

  • Cyhoeddwyd
Safle adeiladu

Bydd Prifysgol Abertawe yn derbyn £36m i ddatblygu deunyddiau adeiladu all greu ynni, yn ôl y Canghellor Philip Hammond.

Gallai'r dechnoleg, sy'n defnyddio gwres a golau i wneud ynni, gymryd lle waliau, toeau a ffenestri traddodiadol.

Wrth ymweld ag Abertawe, mae disgwyl i'r canghellor ddweud mai nod y dechnoleg yw lleihau biliau ynni ac allyriadau carbon.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth y DU wrthod a chefnogi cynllun morlyn Bae Abertawe oherwydd pryder am werth am arian.

'Cefnogi diwydiannau'r dyfodol'

Byddai'r ynni all gael ei greu gan y deunyddiau gael ei ddefnyddio mewn cartrefi, ysgolion ac yn y gweithle, gydag unrhyw ynni ychwanegol yn cael ei werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol.

Dywedodd Mr Hammond bod Prifysgol Abertawe a chwmnïau sydd ynghlwm â'r gwaith yn "arwain y byd ar ynni glan", a bod Llywodraeth y DU yn "cefnogi diwydiannau'r dyfodol fydd yn creu swyddi a chyfleoedd ar draws Cymru".

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, y byddai'r buddsoddiad yn sicrhau bod "Cymru a'i phrifysgolion mwyaf blaengar yn chwarae rôl allweddol wrth gadw'r DU ar flaen y gad wrth arloesi am flynyddoedd".

Mae gweinidogion y DU wedi gosod targed i haneru'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio mewn adeiladau newydd erbyn 2030.