Cynlluniau i warchod cregyn gleision Conwy
- Cyhoeddwyd
Bydd cyngor yn trafod ymyrryd yn niwydiant cregyn gleision Conwy ddydd Mercher, oherwydd pryderon ei fod yn dirywio "ers nifer o flynyddoedd".
Mae gregyn gleision Conwy'n cael eu casglu drwy ddull traddodiadol rhwng mis Medi a mis Ebill, ac fel Halen Môn a Champagne, mae'r cynnyrch wedi'i gydnabod â statws Enw Tarddiad Gwarchodedig.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae nifer y pysgotwyr wedi gostwng yn sylweddol, ac yn 2017/18, dim ond dwy drwydded gafodd eu cymeradwyo.
Ddydd Mercher, bydd Cyngor Conwy yn trafod cefnogi'r Conwy Mussel Company, er mwyn rheoli'r dyfroedd y maen nhw'n pysgota ynddyn nhw.
Mae adroddiad yn rhybuddio y gallai'r diwydiant ddod i ben onibai fod yr awdurdod yn ymyrryd.
Mae ffrwyth y cregyn cleision, sy'n cael eu casglu â llaw o gychod bach pren, yn cael eu hystyried yn fwy suddlon a mwy o faint na mathau eraill, tra bo'r amylchedd oddi ar arfordir Conwy lle maen nhw'n tyfuyn cael ei ystyried yn un unigryw.
Mae rheolau masnachol newydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu bod yn rhaid i weithwyr dalu £5,000 am drwydded ac addasu eu cychod.
Oherwydd hyn, dim ond dau weithiwr fu'n casglu'r cregyn yn 2017/18.
'Prinder elw'
"O ystyried prinder yr elw sy'n dod o bysgota cregyn gleision ar hyn o bryd, mae'n debygol y bydd y polisi newydd yn rhwystr i unrhyw bysgotwyr newydd ddod i'r diwydiant ac i bysgotwyr presennol sydd heb drwyddedau aros ynddo," medd yr adroddiad.
Yn y cyfarfod ddydd Mercher, mae disgwyl i'r cynghorwyr argymell cefnogi'r cwmni wrth reoli pysgota yn yr ardal.
Ar hyn o bryd, mae'r safle puro - lle mae'r cregyn gleision yn cael eu cadw am 42 awr i'w glanhau nhw a'u gwneud nhw'n barod i'w bwyta - yn cael ei osod ar les i'r cwmni gan y cyngor.
Ystyriaeth arall yn yr adroddiad yw i Lywodraeth Cymru barhau i reoli'r dyfroedd, fel y mae wedi gwneud ers 2009.
Yr ardal hon rhwng Gwynedd a Môn yw'r ardal fwyaf drwy'r Deyrnas Unedig am ffermio cregyn gleision.