Y Bencampwriaeth: Stoke 1-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bruno Martins Indi o Stoke yn rhwystro asgellwr yr Elyrch, Wayne Routledge

Colli oedd hanes Abertawe yn y Bencampwriaeth nos Fawrth, wrth i gyn chwaraewr y clwb, Joe Allen sgorio gôl ddadleuol i Stoke.

Roedd hi'n ymddangos fod Benik Afobe yn camsefyll pan adlamodd y bêl oddi arno, ond chafodd yr un faner ei chodi wrth i Allen ei tharo i gefn y rhwyd.

Fe ddylai Stoke fod wedi mynd ar y blaen cyn hynny, gydag Afobe a Tom Ince yn methu cyfleon clir i'r tîm cartref.

Roedd ymateb yr Elyrch yn gryf a bu'n rhaid i golwr Stoke weithio'n galed i arbed ergydion gan Daniel James ac Oli McBurnie.

Dyma ail golled Abertawe yn y Bencampwriaeth eleni, tra bo Stoke yn dathlu eu hail fuddugoliaeth.