Ymchwiliad i gynghorydd o Wrecsam bellach 'wedi cau'

  • Cyhoeddwyd
Paul Rogers a swyddfeydd Cyngor WrecsamFfynhonnell y llun, Cyngor Wrecsam/Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr heddlu, mae'r mater bellach "wedi cau" ac ni fydd unrhyw gamau pellach

Ni fydd cynghorydd Ceidwadol yn Wrecsam yn wynebu unrhyw gamau pellach ar ôl cael ei arestio yn dilyn honiad o ymosod.

Cafodd Paul Rogers ei wahardd o'r blaid yn dilyn digwyddiad honedig ym Mrymbo - yr ardal mae'n ei chynrychioli ar y cyngor.

Erbyn hyn mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod yr ymchwiliad wedi dod i ben.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Mae'r honiad o ymosod wedi cael ei ymchwilio a ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd. Mae'r mater wedi cau."

Cafodd Mr Rogers ei ethol i'r cyngor yn 2008, a'i ail-ethol ym Mai 2017 gyda 50% o'r bleidlais.

Safodd dros y Ceidwadwyr yn etholiad Cynulliad 2011, gan ddod yn ail i Ken Skates, AC Llafur, yn Ne Clwyd.

Gadawodd ei rôl fel aelod arweiniol dros wasanaethau ieuenctid a gwrthdlodi ym mis Chwefror, gan ddweud fod ganddo ymrwymiadau gwaith a'i fod am dreulio amser ar faterion yn ei ward.