Nifer y myfyrwyr sydd am astudio yng Nghymru yn gostwng

  • Cyhoeddwyd
myfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Cymru yw'r unig wlad o fewn y DU sydd wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o wledydd tu allan i'r UE sy'n ceisio am le yn eu prifysgolion.

Rhwng 2017 a 2018, prifysgolion Cymru welodd y gostyngiad mwyaf yn y nifer o ymgeiswyr o fewn yr UE hefyd, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Disgynnodd nifer yr ymgeiswyr o du allan i'r UE o 7%, tra bod gostyngiad o 10% yn y rheiny o Ewrop.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y prifysgolion yn cydweithio â sefydliadau yn Ewrop a thu hwnt er mwyn hyrwyddo Cymru fel man i astudio mewn byd ôl-Brexit.

Fe wnaeth nifer y myfyrwyr a wnaeth ymgeisio i astudio ym mhrifysgolion Cymru yn 2018 ddisgyn 7% i gymharu â'r flwyddyn flaenorol - gostyngiad o 72,000 i 67,420.

Roedd y gostyngiad yn lawer uwch i gymharu â Lloegr (-2%), Gogledd Iwerddon (-3%), a'r DU yn gyffredinol (-2%). Fe arhosodd ffigyrau'r Alban yn eithaf cyson.

Tra bod Cymru wedi gweld cwymp o 7% mewn ceisiadau o du allan i'r UE, roedd pob un o wledydd eraill y DU wedi gweld cynnydd - Lloegr (+7%), Yr Alban (+9%) a Gogledd Iwerddon (+1%).

Roedd cynnydd hefyd i'r nifer o geisiadau o du mewn i'r UE yn Lloegr (+2%) a Gogledd Iwerddon (+3%) tra bod niferoedd yr Alban wedi disgyn 1%.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams eisoes wedi rhoi £3.5m tuag at y Global Wales Initiative

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn rhan o'r Global Wales Initiative, sydd yn ceisio hybu recriwtio a chydweithio wrth ymchwilio, er mwyn hyrwyddo prifysgolion Cymru ar lwyfan rhyngwladol.

Fel rhan o gynllun £50m i helpu Cymru baratoi at Brexit, mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi rhoi £3.5m i'r Global Wales Initiative dros dair blynedd.

Pwrpas y cynllun yw "hyrwyddo brand Study in Wales yn rhyngwladol, datblygu ein gweithgaredd presennol yn UDA a Fietnam ac ehangu i fewn i farchnadoedd eraill".

Cydweithio yn 'hanfodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: "Mae'n amhriodol i ni ddyfalu'r rhesymau am y gostyngiad, ond gwelwn fod recriwtio myfyrwyr yn gystadleuol iawn ar hyd y DU.

"Mae gan y rhan fwyaf o gyrsiau fwy o ymgeiswyr nac sydd yna o lefydd ar y cwrs, felly nid yw gostyngiad mewn ymgeiswyr o'r rheidrwydd yn golygu bod gostyngiad yn nifer y myfyrwyr."

Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth, mae cydweithio rhwng prifysgolion Cymru a gweddill y byd yn rhan "hanfodol o fod yn wlad sydd yn edrych tuag at allan".

Ychwanegodd: "Ein ffocws ni yw sicrhau fod y DU yn agored i groesawu myfyrwyr rhyngwladol a staff o'r UE ar ôl Brexit a pharhau i sicrhau ein bod yn cymryd rhan yng nghynlluniau Erasmus a Horizon."