Cwest: Dyn wedi marw ar ôl disgyn o dacsi ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y bu farw cefnogwr rygbi Cymru ar ôl syrthio allan o dacsi ar draffordd yr M4 yn dilyn ffrae gyda'r gyrrwr am gost y daith.
Bu farw Tony Pemberton, 29 oed, ar ôl cael ei daro gan nifer o gerbydau ar y draffordd ym mis Tachwedd 2017.
Roedd Mr Pemberton, o'r Pîl ger Pen-y-bont, ar ei ffordd adref gyda'i gariad Sarah Perkins ar ôl bod yn gwylio Cymru'n herio Awstralia yn Stadiwm Principality.
Clywodd y cwest ym Mhontypridd fod y ddau wedi penderfynu dal tacsi yn ôl i'r Pîl am fod y trenau'n brysur, ac wedi cytuno gyda'r gyrrwr ar dâl o £70.
'Methu ei dawelu'
Ond dywedodd Ms Perkins fod y gyrrwr wedi codi'r tâl i £80 neu £90 yn ystod y daith.
"Roedd Tony yn cicio'r seddi y tu ôl i'r gyrrwr," meddai.
"Roedd yna newid llwyr ynddo. Dwi erioed wedi ei weld e fel yna o'r blaen. Fedrwn i ddim o'i dawelu e."
Disgrifiodd Ms Perkins sut y cydiodd ym mraich ei chariad.
'Colli fy ngafael'
"Roedd yn dweud ei fod yn mynd i gerdded," meddai.
"Teimlais awyr iach yn y cab, ac roedd llawer o sŵn. Roeddwn i'n dal ei fraich.
"Roedd e'n symud o gwmpas. Fe gollais fy ngafael arno ac roedd e wedi mynd. Doeddwn i ddim yn gallu deall i ble roedd e wedi mynd."
Clywodd y cwest fod y gyrrwr tacsi, Muhammad Jamil wedi stopio'i gar ar lain galed yr M4.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Jamil ei fod wedi cytuno ar dâl o £75, ond bod Mr Pemberton wedi talu £70 yn unig.
Dywedodd ei fod wedi penderfynu mynd â nhw beth bynnag.
'Amodau gwlyb a thywyll'
Disgrifiodd un gyrrwr ar yr M4 y noson honno, Michael Smith, sut yr oedd yr amodau'n "wlyb a thywyll", ac iddo daro'r hyn roedd e'n feddwl oedd yn ddarn o bren.
Wrth gofnodi casgliad naratif, dywedodd y crwner David Regan fod Mr Pemberton wedi marw "drwy syrthio o dacsi i'r M4 mewn amgylchiadau lle'r oedd ei fwriad yn aneglur".
Wrth roi teyrnged i Mr Pemberton yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd ei deulu ei fod yn "dad i ddwy ferch ifanc yr oedd yn eu caru'n fawr".
"Roedd yn jociwr, yn mwynhau bywyd, a doedd yn ddim munud ddiflas yn ei gwmni. Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n fawr," meddai'r teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017