Athrawes o ardal Abertawe ar goll

  • Cyhoeddwyd
Siwan EllisFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siwan Ellis, 53 oed, yn athrawes yn Ysgol Bryn Tawe ac Ysgol Bishop Gore

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am gymorth i ddod o hyd i Siwan Ellis, athrawes o Abertawe, sydd ar goll.

Cafodd Ms Ellis, 53 oed, ei gweld diwethaf yn ardal Mayals o'r ddinas brynhawn ddydd Llun, 17 Medi.

Bu'n athrawes yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac yn Ysgol Bishop Gore, yn ardal Abertawe.

Bu hefyd yn gyflwynydd ar raglenni Hwyrach ar BBC Radio Cymru yn y 1980au hwyr.

Cafodd ei disgrifio fel menyw 5'2" o daldra gyda gwallt melyn a llygaid glas.

Roedd hi'n gwisgo ffrog â streipiau glas a gwyn a bŵts swêd gyda phaent arnynt pan gafodd ei gweld diwethaf. Mae'n bosib ei bod hi hefyd yn gwisgo cot frown.

Mae'r heddlu a theulu Ms Ellis yn poeni am ei lles hi ac yn apelio at unrhyw un sydd wedi ei gweld hi i gysylltu drwy ffonio 101.