Dileu gorchymyn cofrestr rhyw cyn-brifathrawes

  • Cyhoeddwyd
Rhian DeSouzaFfynhonnell y llun, Facebook

Mae barnwr wedi penderfynu na ddylai cyn-brifathrawes o ardal Abertawe, wnaeth gyfadde' bod â lluniau anweddus o blentyn, orfod cofrestru fel troseddwr rhyw am bum mlynedd.

Fe gafodd Rhian De Souza, 43, ei hatal o'i swydd yn Ysgol Gymraeg Gellionnen, Clydach, ym mis Awst.

Yr wythnos diwethaf yn Llys y Goron Abertawe cafodd orchymyn cymunedol o ddwy flynedd. Cafodd hefyd orchymyn i wneud 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned a 25 diwrnod o hyfforddiant adsefydlu.

Fe wnaeth y llys hefyd orchymyn iddi arwyddo fel troseddwr rhyw am bum mlynedd.

Ond ddydd Gwener fe wnaeth y barnwr Paul Thomas QC ddileu'r gorchymyn cofrestru, gan ddweud bod gorchymyn o'r fath ond yn addas pe bai'r plentyn yn y llun o dan 16 oed.

"Fe ddywedais y tro diwethaf fod anghysonderau gyda'r ddeddfwriaeth, a dyma un arall. Nid oes gennyf y grym i orfodi gorchymyn cofrestru, felly rwy'n dileu hyn."

'Anghysonderau'

Mae gorchymyn atal niwed rhywiol yn erbyn De Zouza yn parhau mewn grym.

Clywodd yr achos gwreiddiol fod y delweddau o ferch 16 oed. Roedd De Souza wedi ei hadnabod ers yn 13, ond doedd hi ddim yn ddisgybl yn yr ysgol.

Clywodd yr achos fod yna berthynas rywiol wedi datblygu ar ôl i'r ferch droi'n 16 oed.

Fe wnaeth mam y ferch ddod i wybod am hyn gan gysylltu â'r heddlu.

Clywodd y llys fod y ferch wedi cymryd dau lun personol o'i hun ar Snapchat a'u hanfon i De Souza.

Dywedodd y barnwr fod yna anghysonderau yn y gyfraith, sef bod De Souza â'r hawl i gael rhyw cyfreithlon gyda'r ferch, ond nid bod â lluniau o'r fath ohoni hi.

Ond ychwanegodd y dylai'r athrawes fod wedi gwybod fod bod â lluniau o'r fath yn ei meddiant yn anghyfreithlon.