Arestio dyn ar amheuaeth o geisio cyflawni lladrad arfog
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi 14:30, ar ôl i ddyn fynd fewn i Fferyllfa Pritchards ym Mhrestatyn yn cario bag a dryll.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn lleol, 32 oed ar amheuaeth o geisio cyflawni lladrad arfog ym Mhrestatyn ddydd Sadwrn.
Fe gafodd swyddogion eu galw toc wedi 14:30, ar ôl i ddyn fynd fewn i Fferyllfa Pritchards ar Ffordd Fictoria yn y dref yn cario bag a dryll.
Roedd y dyn wedi gorchymyn y staff yn llenwi'r bag gydag arian, ond fe adawodd yn waglaw.
Yn ddiweddarach fe wnaeth yr heddlu ddarganfod y dryll gerllaw.
Mae'r dyn bellach yn y ddalfa yn Llanelwy.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Nick Evans o Heddlu'r Gogledd: "Roedd yn ddigwyddiad dychrynllyd i'r staff a diolch byth chafodd neb ei anafu."