Tân Aberystwyth: Dyn gerbron llys

  • Cyhoeddwyd
tan aberystwythFfynhonnell y llun, Keith Morris

Mae dyn 30 oed wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe i wynebu cyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Fe wnaeth Damion Harris, o Lanbadarn, ymddangos ar linc fideo o Garchar Abertawe.

Mae'n dilyn tân yn Nhŷ Belgrave, Aberystwyth, yn oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf lle bu farw un dyn.

Daeth yr heddlu o hyd i weddillion dynol yn y gwesty yn gynharach fis Medi.

Y gred yw mai'r person fu farw oedd dyn o Lithwania, a oedd yn westai yno ar y pryd.

Mae'r heddlu wedi gwneud cais i gyfweld â Mr Harris. Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ym mis Hydref.