Heddlu i archwilio gwesty yn Aberystwyth ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Tân gwesty Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae un dyn yn parhau ar goll yn dilyn y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave

Bydd archwiliad manwl yn dechrau ddydd Mawrth tu fewn i westy yn Aberystwyth gafodd ei ddinistrio gan dân, meddai Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i westy Tŷ Belgrave yn ystod oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf.

Achubwyd 12 o bobl oedd yn yr adeilad yn ddiogel ond mae un dyn - sy'n dod o Lithwania yn wreiddiol - yn dal ar goll.

Er bod pobl y dref yn "gwerthfawrogi" gwaith y gwasanaethau brys, dywedodd y cynghorydd Ceredig Davies bod sgil-effaith ar y dref.

Union fis ers y tân, mae sgaffaldwaith yn amgylchu'r gwesty.

Mae gweithwyr wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn defnyddio craen i dynnu darnau o simnai, cerrig rhydd a llechi i lawr er mwyn gwneud y safle yn ddiogel ar gyfer yr archwiliad mewnol gan yr heddlu ac ymchwilwyr tân.

Sgil-effaith ar y dref

Dywedodd Mr Davies, sy'n cynrychioli Canol Aberystwyth ar Gyngor Ceredigion, bod pobl y dref yn gwerthfawrogi gwaith y gwasanaethau brys.

"Maen nhw'n ymwybodol bod hyn wedi bod yn drychineb ac mae'n mynd i gymryd amser, ond mae sgil-effaith ar y dref - ar y promenâd sydd ar gau ac ar Ffordd y Môr," meddai.

"Ond rhaid i'n teimladau ni fod gyda'r unigolyn sydd ar goll ac mae'n rhaid i'r heddlu gael yr amser i wneud eu gwaith."

Disgrifiad,

Dywedodd y cynghorydd Ceredig Davies bod angen rhoi amser i'r heddlu "wneud eu gwaith"

Mae rhan o'r promenâd wedi bod ar gau i draffig ers y tân, ac yn ôl Mr Davies mae'n aneglur pryd y bydd yn ailagor.

"Dwi wedi bod yn siarad gyda'r heddlu a'r cyngor sir a gofyn iddyn nhw roi ystyriaeth i'r busnesau sydd yma ar y prom, ond i fod yn deg mae ganddyn nhw bethau pwysicach o ran edrych yn fanwl ar beth ddigwyddodd ac mae'n mynd i gymryd faint bynnag mae'n mynd i gymryd," meddai.

"Dwi ddim yn credu y bydd yn fisoedd ond mae potensial y bydd ar gau am wythnosau eto."

Roedd dyn 30 oed o Lanbadarn Fawr ger Aberystwyth gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener wedi'i gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd Damion Harris ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys eto ddiwedd mis Medi.