Cychwyn archwilio gwesty Aberystwyth dros fis ar ôl tân

  • Cyhoeddwyd
Tân gwesty Aber
Disgrifiad o’r llun,

Mae un dyn yn parhau ar goll yn dilyn y tân yng ngwesty Tŷ Belgrave

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dechrau archwiliad llawn y tu mewn i westy yn Aberystwyth gafodd ei ddinistrio gan dân dros fis yn ôl.

Roedd yn amhosib i arbenigwyr yr heddlu a'r gwasanaeth tân archwilio gwesty Tŷ Belgrave tan ddydd Mawrth am fod y safle'n rhy beryglus.

Fe gychwynnodd y tân yn ystod oriau mân y bore ar 25 Gorffennaf.

Cafodd 12 o bobl eu hachub o'r safle yn ddiogel ond mae un dyn - sy'n dod o Lithwania yn wreiddiol - yn dal ar goll.

Ffynhonnell y llun, Twitter/@MAWWChrisDavies
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y tân achosi difrod sylweddol i i'r gwesty ac adeiladau cyfagos

Mae dyn 30 oed o ardal Llanbadarn ger Aberystwyth wedi ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae Damion Harris wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i'r llys fis nesaf.

Arbenigwyr fforensig

Dywedodd yr heddlu bod gwaith wedi ei wneud i ddiogelu'r adeilad, i alluogi i dîm chwilio arbenigol fynd i mewn ddydd Mawrth.

Ychwanegodd y llu y byddai'r ymgyrch yn defnyddio arbenigwyr fforensig a chwn chwilio yn ystod yr archwiliad.

Mae rhan o'r promenâd wedi bod ar gau i draffig ers y tân a diolchodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i'r gwaith barhau.

"Rydyn ni nawr yn gallu dechrau'r rhan nesaf o'r ymchwiliad, fydd yn cynnwys archwilio gweddillion yr adeilad yn fanwl er mwyn darganfod unrhyw dystiolaeth all adnabod achos y tân."