Corbyn yn addo morlyn i Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Jeremy Corbyn wedi amlinellu ei gefnogaeth i gynllun morlun Bae Abertawe.
Mae'r cynllun ymhlith nifer o gynlluniau ynni adnewyddol gafodd eu haddo gan yr arweinydd Llafur yn ystod ei araith i gynhadledd y blaid Lafur.
Cafodd gynlluniau i ddatblygu morlyn eu gwrthod gan llywodraeth y DU ym Mehefin, yn dilyn amheuon am gost y prosiect.
Cyn ei araith i'r gynhadledd dywedodd Mr Corbyn: " Roedd y methiant i gefnogi morlyn Abertawe yn bendefyniad anghywir i'r economi, swyddi, a dyfodol ein planed."
Doedd dim son penodol am gynllun Abertawe yn ystod ei araith ond addawodd y byddai ei gynlluniau ynni gwyrdd yn creu 400,000 o swyddi newydd.
Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd Nia Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli ac aelod o gabinet yr wrthblaid:
"Beth ydan ni wedi ei ddweud yw ei bod hi'n bwysig creu mwy o ynni adnewyddadwy a'n bod ni'n cefnogi prosiectau fel morlun Bae Abertawe.
Mae'n rhan o'n cynllun ni i greu mwy o ynni yma ym Mhrydain yn lle defnyddio cymaint o olew gan fod y pris yn codi a chodi. Mae'n bwysig o safbwynt newid hinsawdd a'r economi."
Yn ol Mr Corbyn byddai llywodraeth Lafur yn anelu at ddileu holl allyriadau carbon Prydain erbyn 2050.
.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2018