Gwaredu trethi busnes ar gyfer meithrinfeydd Cymru
- Cyhoeddwyd

Ni fydd raid i feithrinfeydd dydd yng Nghymru dalu trethi busnes am dair blynedd o fis Ebrill 2019.
Mae'r cam gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgyrch gan y sector am fwy o gymorth, er mwyn gallu gweithredu polisi'r llywodraeth o ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim.
Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn darparu cymorth ychwanegol gwerth £7.5m i ddarparwyr gofal plant dros dair blynedd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Bydd hyn yn helpu i greu swyddi gofal plant newydd ac yn helpu i greu darpariaeth gofal plant o'r newydd a chynnal darpariaeth sydd eisoes ar gael ledled Cymru."
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gofal plant yng Nghymru yn un o'u blaenoriaethau allweddol.
Mae'r cynllun gofal plant sydd wedi ei dargedu at rieni plant tair a phedair oed yn cael ei dreialu mewn wyth awdurdod lleol ac mewn rhannau o chwe ardal arall.
Fe fydd yn cael ei redeg ar draws Cymru yn 2020.

Mae Mark Drakeford wedi bod yn AC Gorllewin Caerdydd ers 2011
Er bod y llywodraeth eisoes wedi cynyddu'r rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal Cymru, maen nhw "am wneud mwy eto", meddai Mr Drakeford.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd y sector gofal plant yng Nghymru yn cael ei ryddhau rhag talu ardrethi o fis Ebrill 2019 ymlaen.
"Bydd hyn yn helpu darparwyr gofal plant i sefydlu eu hunain yn fwy cadarn gan helpu'r sector i ffynnu a thyfu."
Yn ôl ymgyrchwyr mae meithrinfeydd yn aml yn adeiladau mawr sydd yn wynebu biliau treth uchel.
Dywedodd Neil Blockley, cydberchennog Little Inspirations - sydd â chwe meithrinfa yn ne Cymru - y bydd y toriad yn golygu arbedion o ryw £30,000 i'r busnes.

Huw Irranca-Davies: "Rydyn ni wedi gwrando ac wedi gweithredu"
Dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies: "Mae'r sector gofal plant wedi dweud wrthym y byddai cael eu rhyddhau yn llwyr rhag talu ardrethi annomestig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i hyder eu busnes.
"Rydyn ni wedi gwrando ac wedi gweithredu ar hynny."
Ychwanegodd Mr Irranca-Davies: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu sector gofal plant o'r safon uchaf yng Nghymru.
"Drwy wella'r cymorth sydd ar gael i'r sector gofal plant, byddwn yn ei gwneud hi'n haws eto i ddod o hyd i ddarpariaeth gofal plant gan gefnogi teuluoedd sy'n gweithio yng Nghymru, a'i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i swyddi a'u cadw."
'Newyddion gwych'
Dywedodd Purnima Tanuku, Prif Weithredwr National Day Nurseries Association Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i holl fusnesau gofal plant Cymru, yn enwedig y meithrinfeydd sector breifat sy'n ei chael hi'n anodd.
"Rydym ni wedi bod yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru i bwysleisio'r ddadl am pam ddylai meithrinfeydd gael y fantais yma.
"Mae meithrinfeydd preifat a rhai gwirfoddol, sydd yn gallu rhoi y dewis sydd angen i rieni, wedi bod yn darparu gwasanaeth gofal plant ar golled ers blynyddoedd."
Bydd y cam yma'n cael ei adolygu ymhen tair blynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018