Niferoedd ffermwyr bregus 'i gynyddu'
- Cyhoeddwyd
Mae tîm o blismyn sydd â chyfrifoldeb dros faterion cefn gwlad yn dweud eu bod nhw wedi delio mwy gyda materion lles ffermwyr na thor-cyfraith yn ystod eu misoedd cyntaf o waith.
Bellach mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Dyfed-Powys yn rhagweld y bydd nifer y ffermwyr bregus yn cynyddu wrth i'r gaeaf nesáu oherwydd bod cymaint yn poeni am ddiffyg porthiant i'w hanifeiliaid wedi haf sych.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn dweud bod prisiau uchel porthiant yn chwarae ar feddwl ffermwyr "yn ddychrynllyd".
Nawr mae'r heddlu'n gofyn i bobl sydd mewn cysylltiad dyddiol gyda ffermwyr i gadw llygad allan am unrhyw un bregus a fyddai angen cymorth.
Help ar gael
"Yn y pythefnos cynta' ers i ni ddod at ein gilydd fel tîm ry' ni wedi delio mwy gyda welfare issues na thor-cyfraith," meddai PC Gerwyn Davies, sydd yn fab fferm yn ogystal â bod yn blismon.
"Ma' un achos ni'n gweithio ar hyn o bryd, ma'r dyn ar ei ben ei hun erbyn hyn ac yn byw ffordd o fywyd syml. Beth 'y ni'n gweld nawr yw nad yw e'n gallu edrych ar ôl ei hun yn iawn.
"Ni 'di mynd a dillad ato fe, food parcel, ac ma' agencies eraill nawr yn ei helpu fe hefyd.
"Ond ma fe'n becso, achos mae e hefyd yn wynebu problemau gyda bwydo ei anifeiliaid."
Ers cychwyn ar y gwaith, mae PC Davies a gweddill y tîm wedi bod yn rhoi negeseuon ar wefan cymdeithasol Twitter yn annog pobl i gysylltu â nhw, ac maen nhw wedi derbyn sawl cais am gymorth gan aelodau o'r cyhoedd hefyd.
"Bwriad ni, drwy roi pethe lan ar Twitter yw bo' ni'n gallu dangos be' ni'n gallu gwneud dros ffermwyr, a bod help ar gael.
"Ni'n trio neud contact gyda boi sy'n dreifo'r lori laeth, postmon, y fet - weithie dyna'i gyd ma' ffermwyr yn ei weld am ddyddie ar y tro - ni ishe iddyn nhw roi gwbod i ni os ydyn nhw'n meddwl bod ffarmwr yn fregus fel bo' ni'n gallu mynd mas i weld nhw, i weld beth allwn ni ei wneud iddyn nhw.
"Os ydyn ni'n mynd i gael gaeaf cynnar, os neith y tywydd droi'n gwlyb a gaeafol yn gynnar yn gaeaf... fe ellith beri gofid enbyd," meddai, "ac ma' rhai yn poeni nawr achos ma' nhw'n gw'bod beth sydd o'u blaenau nhw."
Fis Awst 2018 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fydd ffermwyr yn cael eu taliadau blynyddol yn gynnar eleni wedi tywydd poeth yr haf, gyda'r undebau amaeth yn rannedig eu barn ar y cyhoeddiad.
Ar y pryd dywedodd y llywodraeth na fyddai yna daliad cynnar, ond y byddai benthyciad newydd ar gael i fusnesau sydd heb gael eu taliadau ar y diwrnod cyntaf un, 1 Rhagfyr.
'Da ni i gyd ynddi...'
Mae'r ymgyrch gan yr heddlu wedi cael croeso gan y Canon Eileen Davies sy'n gwirfoddoli gyda Tir Dewi, elusen sy'n rhoi ceisio rhoi cymorth i ffermwyr bregus.
"Dwi'n cefnogi ymdrech yr heddlu gant y cant. 'Sdim pwynt i neb gladdu pen mewn tywod," meddai Ms Davies, sydd hefyd yn ffermio yn Llanllwni.
"[Ond] dyw pawb ddim yn barod i siarad. 'So nhw moyn siarad am beth sy'n digwydd ar y fferm. Neb ishe bod yn onest.
"'Da ni i gyd ynddi... 'da ni i gyd yn wynebu'r un peth..."
Mae hi'n dweud bod angen i asiantaethau a chyrff sy'n cael eu galw allan at ffermwyr fod ar eu gwyliadwraeth hefyd.
"Bob tro chi'n cael eich galw mas i ffermwyr, gofynnwch bob tro 'shwt ma'r ffarmwr? Beth sy'n ei boeni?' Wedyn fe gewch chi'r darlun cliriach.
"Os yw iechyd y ffarmwr yn iawn, byddan nhw'n gwneud y gore dros eu hanifeiliad. Os nad ydy iechyd y ffermwr yn iawn, yna mae'r anifeiliaid yn mynd i ddiodde'."
"Mae pryder yna wastad pan 'da chi'n ffermio", meddai Eifion Huws, sy'n is-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn y gogledd, "ond 'leni, efo popeth sy'n mynd ymlaen, mae'n anodd ofnadwy."
Mae'r Undeb wedi bod yn feirniadol iawn o benderfyniad y llywodraeth i beidio â rhyddhau y taliad syflaenol yn gynt na 1 Rhagfyr, ac yn dweud bod 90% o ffermwyr wedi dioddef prinder porthiant oherwydd y tywydd sych.
"Wrth bod pobl yn sylweddoli faint o borthiant ychwanegol fyddan nhw'n ei brynu, ac yna edrych ar y prisiau, mae o'n mynd ar eu meddwl yn ddychrynllyd.
"Ma' nhw'n dechrau meddwl wedyn 'Beth alla i ei wneud?' ac mae 'na deimladau o unigrwydd wedyn.
"Mae'n beth da bod yr heddlu yn dod i gysylltiad gyda ffermwyr fel hyn, fedra i ddim brolio nhw ddigon am wneud.
"Ond mae'n job... Unwaith 'da chi'n mynd yn isel mae'r belen fach yn gallu mynd yn belen fawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2017
- Cyhoeddwyd23 Awst 2018
- Cyhoeddwyd2 Awst 2018
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2018