Pro 14: Zebre 8-22 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Sam DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd Sam Davies yn allweddol wrth i'r Gweilch godi i frig y tabl ar ôl ennill o 8-22 yn erbyn Zebre.

Roedd dau newid i'r tîm a drechodd Benetton wythnos ddiwethaf, gydag Alun Wyn Jones a Tom Botha yn colli eu lle.

Sgoriodd Davies 17 o bwyntiau i'r ymwelwyr wrth iddynt sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth y tymor hwn.

Dechreuodd y Gweilch yn dda ar ôl i Luke Morgan sgorio cais wedi 13 munud.

Fe darodd Zebre yn ôl drwy gais hwyr gan Jimmy Tuivaiti, ond nid oedd yn ddigon i rwystro'r Gweilch rhag ennill gêm oddi cartref am y tro cyntaf eleni.