Cyngor i ailystyried cynllun adnewyddu canol Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae yna ansicrwydd bellach a fydd Cyngor Sir Benfro yn bwrw 'mlaen gyda chynllun i wario £3.5m er mwyn adnewyddu canol tref Hwlffordd.
Daw hyn wedi i bwyllgor craffu wrthwynebu cynlluniau'r cabinet gan ddweud nad yw'r "gost o brynu yn cynnig gwerth am arian".
Ddechrau'r mis roedd y cabinet wedi cymeradwyo cynllun i brynu hen siop Ocky White am £460,000, fel rhan o gynllun ehangach i wella canol y dref.
Ond ddydd Gwener dywedodd aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau'r sir eu bod yn "poeni" am gost y cynllun.
Bydd y cabinet, sydd â'r gair terfynol, yn trafod y mater yn eu cyfarfod nesaf.
Byddai'r prosiect yn golygu cost o £1.27m i'r Cyngor, gyda £2.3m yn dod o Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd y cynghorydd Mike Stoddart, un o chwech o gynghorwyr oedd wedi gofyn am ailystyried, nad oedd y cynllun yn cynnig gwerth am arian.
"Rydym yn prynu'r adeilad am £450,000, gwario £3m ar adnewyddu a byddwn yn cael ased sy'n werth £750,000. Dyw hyn ddim yn fusnes da," meddai.
Ychwanegodd: "Dyw e ddim yn syniad da i symud ymlaen gyda rhywbeth fydd yn golygu costau. Dyw hwn ddim yn ased, yn hytrach mae e'n ddyled."
Cynllun ehangach
Fe wnaeth Ocky White gau bum mlynedd yn ôl, a bu ymdrechion i werthu'r adeilad ers 2011 yn aflwyddiannus.
Dywedodd Paul Miller, aelod o'r cabinet gyda chyfrifoldeb am ddatblygiad economaidd: "Rydym am fod yn flaengar wrth ailddatblygu canol y dref".
"Mae'n rhaid i ni gyfnerthu canol ein trefi er mwyn cynnig rhywbeth gwahanol.
"Pe bai ni yn prynu'r adeilad mae'n dangos ein hymroddiad i ganol y dre. Dyw e ddim yn un adeilad ar ben ei hun ond yn rhan o adnewyddu sylweddol o ganol Hwlffordd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018