Cyngor yn cymeradwyo cynllun i adnewyddu siop
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cymeradwyo cynllun i brynu ac adnewyddu hen siop Ocky White yn Hwlffordd ar gost o dros £3.5m.
Caeodd drysau Ocky White bum mlynedd yn ôl, ac mae'r ymdrechion i werthu'r adeilad ers 2011 wedi methu.
Fe fydd £2.1m ar gael ar gyfer y cynllun oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Ddydd Llun penderfynodd y cabinet hefyd i gynnal astudiaeth pellach ar gyfer gynllun ehangach i ddatblygu ardal glan yr afon.
Yn ôl swyddogion y cyngor mae dyfodol yr hen siop yn rhan allweddol o'r cynllun i adfywio'r ardal lle bydd llyfrgell sirol newydd sbon yn agor cyn bo hir.
Mae costau adnewyddu'r adeilad wedi cynyddu o £3.12m i £3.57m, sydd yn cynnwys swm o £460,000 i brynu'r adeilad.
Dywedodd y cynghorydd Paul Miller, aelod o'r cabinet a chyfrifoldeb am yr economi: "Rydym yn datblygu cynlluniau i adfywio y rhan yma o Hwlffordd.
"Mae gwir angen rhywbeth sy'n cynnig rhywbeth gwahanol i ganol y dre. Mae hyn yn rhan o gynllun ehangach i ddatblygu'r dref."
Cafodd dri o gynigion y cynghorydd Miller eu derbyn yn unfrydol sef:
Prynu safle Ocky White;
Derbyn cynnig grant o dros £2m gan Lywodraeth Cymru;
Cynnal asesiad mwy manwl ar gyfer datblygu ardal ehangach.
Roedd y cynnig grant o dros £2m gan Lywodraeth Cymru yn dod i ben ar 28 Medi, felly roedd yn rhaid i'r cyngor wneud penderfyniad ddydd Llun ar y ffordd ymlaen.
Gormod o arian
Yn ôl y Cynghorydd Cris Tomos, sydd hefyd yn aelod o'r cabinet: "Mae'n rhaid penderfynu beth sydd orau i'r sir ac i'r dref. Mae angen adnewyddu canol tref Hwlffordd."
Ond mae cyn-Faer tref Hwlffordd, Roy Thomas yn dweud ei fod yn "amheus am y cynlluniau i wario cymaint o arian cyhoeddus ar un adeilad".
Dywedodd: "Mae'n mynd i gostio mwy i wneud y lle 'lan nac i brynu fe. Fi'n gofidio bod gormod o arian yn cael ei dwlu ato fe."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2015