Heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn ym maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin.
Cafodd yr heddlu eu galw i faes carafanau'r Grove tua 10:00 dydd Gwener.
Fe gafodd ei farwolaeth ei gadarnhau ar y safle.
Dyw'r heddlu ddim yn gwybod enw'r dyn hyd yma.
Mae dyn arall wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn cael holi yn y ddalfa.