Llofruddiaeth Pentywyn: Enwi dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin.
Roedd Simon Peter Clark yn 54 oed ac yn dod o Bentywyn.
Cafodd yr heddlu eu galw i faes carafanau'r Grove tua 10:00 ddydd Gwener, lle gafodd ei farwolaeth ei gadarnhau ar y safle.
Mae dyn arall wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn cael ei holi yn y ddalfa.
Mae teulu Mr Clark wedi rhoi teyrnged iddo, gan nodi eu bod wedi eu "llorio" gan y newyddion.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2018