Cymdeithasau pêl-droed yn cefnogi tîm merched Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae FIFA, y corff sy'n llywodraethu pêl-droed ar draws y byd, wedi cadarnhau bod cymdeithasau Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban wedi cytuno mewn egwyddor y gallai tîm pêl-droed merched gynrychioli Prydain yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020.
Dywedodd FIFA fod y cytundeb ond yn ymwneud â thîm merched ac nad oedd yn berthnasol i gêm y dynion.
Er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth bydd gofyn i dîm Lloegr orffen ymysg y tri uchaf yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth timau Prydeinig dynion a merched gymryd rhan yng ngemau Llundain 2012, a hynny am y tro cyntaf ers 1972.
Ond doedd yna ddim tîm Prydeinig yn Rio 2016, ar ôl i gymdeithasau pêl-droed Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wrthwynebu'r syniad.
'Tanseilio' pêl-droed annibynnol
Ym mis Awst dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru na fyddai'n ddoeth iddynt gefnogi sefydlu Tîm GB y merched yn y Gemau Olympaidd, ond ychwanegodd ei fod yn derbyn y budd o sefydlu tîm o'r fath.
"Yn wleidyddol rydym wastad wedi dweud fod y penderfyniad yn un anodd oherwydd ein bod yn hoffi chwarae yn enw Cymru."
Un sy'n feirniadol o'r penderfyniad yw Tim Hartley sy'n Is-gadeirydd Supporters Direct, grŵp sydd am roi mwy o lais i gefnogwyr pêl-droed.
"Fe gawson ni addewid pan oedd Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 mai one off fyddai Tîm GB i'r dynion - wrth gwrs ma' hynny wedi profi yn anwiredd," meddai ar raglen Taro'r Post, Radio Cymru.
"Mae'r syniad o Dîm GB mewn pêl-droed yn tanseilio'r holl syniad o chwarae fel cenedl annibynnol."
'Dim dadl'
"Gofyn ydw i os oes 'na dîm GB i'r merched pam lai i'r dynion?
"Ac os ydy'r tîm yna yn llwyddo yn yr Olympics - neu fethu be di'r ots. Pam lai cael yr un fath o dîm ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop neu Cwpan y Byd?
"Byddai hynny yn dileu Cymru fel cenedl pêl-droed annibynnol."
Ond dywed Kath Morgan sy'n gyn-chwaraewraig ac hyfforddwraig pêl-droed merched Cymru, y bydd y penderfyniad yn rhoi cyfle gwych i chwaraewyr Cymru a bod modd gwarchod statws Cymru.
"Fi wedi siarad gydag unigolion a'r fraint maen nhw am ei gael o fynd a chwarae mewn twrnament byd enwog, i mi does yna ddim dadl."
Ychwanegodd: "Byddai'n rhaid i ni eistedd lawr a sicrhau bod yna reolau clir a chadarn."