Leanne Wood: Colli'r arweinyddiaeth ddim yn bersonol

  • Cyhoeddwyd
Roedd Leanne Wood wedi arwain Plaid Cymru ers 2012
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leanne Wood wedi arwain Plaid Cymru ers 2012

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud nad ydy hi'n cymryd canlyniad etholiad ar arweinyddiaeth y blaid yn bersonol.

Ond fe ddywedodd Ms Wood fod y canlyniad yn "gam yn ôl" am ei fod wedi gadael y Cynulliad heb yr un arweinydd benywaidd.

Cafodd Adam Price ei ethol fel arweinydd newydd y blaid yr wythnos diwethaf, gyda Ms Wood yn gorffen yn olaf yn y ras tu ôl i Mr Price a Rhun ap Iorwerth.

Yn siarad am y tro cyntaf wedi'r etholiad, dywedodd Aelod Cynulliad Rhondda y bydd hi'n sefyll eto fel AC yn 2021.

"Mae pobl yn gwybod pwy ydw i ac am beth rwy'n sefyll, ac rwyf am roi hynny i ddefnydd da," meddai.

Dywedodd ei bod hi'n siomedig gyda'r canlyniad, ond ychwanegodd: "Dydw i ddim yn gadael i fy hun deimlo wedi fy nghlwyfo na dim byd felly.

"Rwy'n ddemocrat ac yn cydnabod dymuniadau aelodau Plaid Cymru."

'Fy mhrosiect i'n parhau'

Roedd Ms Wood wedi dweud yn wreiddiol ei bod hi wedi'i "synnu" gan yr her i'w harweinyddiaeth ym mis Gorffennaf.

Dywedodd nad oedd llawer o wahaniaeth rhwng Mr Price a hi.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Adam Price 49.7% o bleidleisiau aelodau Plaid Cymru yn rownd gynta'r etholiad arweinyddol

"Wedi'r cyfan, Adam oedd awdur y maniffesto yn 2016 wnaethon ni ei greu gyda'n gilydd," meddai.

"Mae gennym ni sosialydd yn arwain Plaid Cymru o hyd, mae gennym ni annibyniaeth fel un o'n blaenoriaethau.

"Dydw i ddim yn cymryd hyn yn bersonol," meddai.

"Fe ddechreuais i ar brosiect gwleidyddol chwe blynedd yn ôl... ac mae'r prosiect yna'n parhau o hyd.

"Rwy'n credu bod ethol Adam Price yn golygu bod pobl eisiau parhau gydag elfen fawr o beth wnes i ei gyflwyno."

Dywedodd ei bod am weld gwleidyddiaeth Cymru yn rhoi mwy o blatfform i ferched.

Ond dywedodd y gallai'r blaid, drwy ethol yr arweinydd hoyw cyntaf yn hanes y Cynulliad, ddweud o hyd ei bod hi'n "adlewyrchu Cymru amrywiaethol (diverse)".