Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â llofruddiaeth Pentywyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod pedwar person wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 54 oed.
Cafodd corff Simon Clark ei ddarganfod mewn maes carafanau ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, ddydd Gwener diwethaf.
Mae Jeffrey Stephen Ward, 40 oed o Bentywyn, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae tri arall wedi eu cyhuddo o gynorthwyo troseddwr - Linda Mary Rowley, 52 o Bentywyn, Kirston Macklin, 52 o Gasnewydd, a Julie Louise Harris, 46 o Donypandy.
Bydd y pedwar yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener, Hydref 5.
Mae'r heddlu'n dal i chwilio am ddyn 52 oed arall, Steve Baxter, sydd hefyd yn cael ei adnabod dan yr enwau Steve Rowley, Wayne Tidy a William Tidy.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Huw Davies: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u hamynedd wrth i ni barhau â'r ymchwiliad. Mae'n cydymdeimlad ni yn parhau gyda theulu a ffrindiau Simon Clark".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd29 Medi 2018